Gwalchmai ap Meilyr
Oddi ar Wicipedia
- Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Gwalchmai (gwahaniaethu)
Bardd Cymraeg y cysylltir ef a'i deulu â Threwalchmai ym Môn oedd Gwalchmai ap Meilyr (fl. 1130-1180). Mae ymhlith y cynharaf o'r Gogynfeirdd (Beirdd y Tywysogion).
Roedd yn fardd llys i Owain Gwynedd (Owain ap Gruffudd) ac i'w frodyr a chanai hefyd i Ddafydd ab Owain Gwynedd ac i Rodri ab Owain Gwynedd, dau o feibion Owain. Roedd Gwalchmai yn fab i Feilyr Brydydd ac yn dad i'r beirdd Meilyr ap Gwalchmai a Einion ap Gwalchmai a hefyd, efallai, i'r bardd Elidir Sais.
Ei gerdd bwysicaf efallai yw Gorhoffedd Gwalchmai, un o gerddi Cymraeg mwyaf yr Oesoedd Canol.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Y Bala, 1979). Erthygl gan Tomos Roberts.
- J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)