Owain Brogyntyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Owain Brogyntyn

Yr oedd Owain Brogyntyn (Owain ap Madog: fl. 1186) yn fab ieuengaf anghyfreithlon Madog ap Maredudd, y brenin olaf i reoli ar deyrnas unedig Powys. Roedd yn fab i Fadog gan ferch maer Rhug (ger Corwen) yn Edeirnion, a adnabyddid fel "Y Maer Du". Roedd yn frawd i'r Tywysog Gruffudd Maelor ac yn hynafiad i Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru.

Bywgraffiad[golygu]

Mae'n debygol y cafodd Owain Brogyntyn ei fagu gyda theulu ei fam yn Rhug yn Edeirnion. Nid oedd bod yn "blentyn perth a llwyn" yn beth gywilyddus yng Nghymru'r Oesoedd Canol, a chafodd Owain ei gydnabod yn agored gan ei dad a roddodd iddo arglwydiaethau Edeirnion a Dinmael (er ei bod yn bosibl iddo etifeddu y tiroedd hyn trwy ei dad-yng-nghyfraith ac i Fadog, fel brenin Powys, ei gadarnhau yn eu meddiant). Rywbryd, daeth gastell a thir Brogyntyn, ger Selattyn yn ymyl Croesoswallt (fu'n rhan o Gymru ar y pryd), i'w feddiant hefyd. Daethpwyd i'w alw yn 'Owain Brogyntyn' i wahaniaethu rhyngddo a'i hanner-frawd y Tywysog Owain Fychan ap Madog.

Priododd Owain Jonet ferch Hywel (un o ddisgynyddion Elystan Glodrydd) ond ni chawsont blant. O'i ail briodas â Mared ferch Einion ap Seisyllt cafodd dri o blant.

Priododd ei fab cyntaf, Iorwerth ab Owain Brogyntyn, Efa ferch Madog, unig ferch ac etifeddes Madog ap Gwenwynwyn, Arglwydd Mawddwy (mab ieuengaf Gwenwynwyn, tywysog Powys Wenwynwyn). Cadarnheuwyd hawl eu mab Gruffudd ab Iorwerth fel Barwn Edeirnion gan Edward I o Loegr dan dermau Statud Rhuddlan ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282-83.

Yn ôl yr hynafiaethydd Philip York, yn sgwennu yn 1799, roedd cwpan a chyllell a fu'n eiddo Owain Brogyntyn yn cael eu cadw ym mhlasdy Rhug.[1] Cadarnheuwyd bodolaeth y creiriau yn 1868, ym meddiant "Colonel Vaughan o Rug", ond dywedir erbyn hynny eu bod yn perthyn i'r Tywysog Owain Glyndŵr. Erbyn heddiw maent wedi diflannu.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. York, Philip, The Royal Tribes of Wales (Llundain, 1799), tt. 119-120.