Cynddelw Brydydd Mawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd mwyaf y 12fed ganrif yng Nghymru oedd Cynddelw Brydydd Mawr (fl. tua 1155 - 1195). Ef oedd y mwyaf cynhyrchiol o ddigon o Feirdd y Tywysogion ac efallai'r pwysicaf. Canai i dywysogion Tair Talaith Cymru, yn y de, y canolbarth a'r gogledd, ac er iddo gael ei eni ym Mhowys mae 'na le i'w ystyried yn bencerdd Cymru gyfan.

Achau a thir[golygu]

Mae tystiolaeth mewn englyn iddo gan ei gyd-fardd Seisyll Bryffwrch yn awgrymu nad oedd Cynddelw ei hun yn hanfod o deulu barddol. Mae rhan o'i ach ar gadw gan y bardd Gruffudd Hiraethog (m. 1564). Fe'i rhoddwyd iddo gan Wiliam ab Ieuan, curad Caerhun a rheithor Llanfairfechan ar ddechrau'r 16eg ganrif. Dywedir mai uchelwr o'r enw Trahaearn oedd ei dad.

Mewn llawysgrif arall mae Gruffudd Hiraethog yn ychwanegu fod ei ddisgynyddion yn byw yng 'Nglyngronant, cynhaledigaeth rydd yn y Llechwedd Isaf yn Sir Gaer-yn-Arfon'. Ond nid gŵr o'r ardal honno oedd Cynddelw ei hun. Mae Wiliam Llŷn yn dweud ei fod yn frodor o Fechain ym Mhowys. Yn ei farwysgafn mynega Cynddelw ei ddymuniad i gael ei gladdu ym mhlwyf Mihangel: y plwyf fwyaf tebygol yw Llanfihangel-yng-Ngwynfa, un o blwyfi cantref Mechain. Daw Cynddelw i'r amlwg yn gyntaf mewn cysylltiad â llys Madog ap Maredudd, brenin Powys, ym Mathrafal. Sonia Cynddelw am hela yn y cyffiniau ac mae'n rhesymol tybio fod ganddo dir yno.

Ar farwolaeth Maredudd ymddengys fod Cynddelw wedi symud i Wynedd. Canai i Owain Gwynedd a derbyniodd dir ganddo ym Maenan yn Rhos, safle Abaty Aberconwy. Yn ddiweddarach bu rhaid i'w ddisgynyddion ildio eu tir ym Maenan pan orfodwyd yr abaty i symud yno o Conwy gan Edward I o Loegr, a chawsant dir ym mhlwyfi Caerhun (trefgordd Gronant) a Llangelynnin (trefgordd Glyn) yn Arllechwedd Isaf, Dyffryn Conwy, yn gyfnewid am hynny.

Mae'r hynafiaethydd Thomas Wiliems o Drefriw yn honni fod Cynddelw wedi ei gladdu yn Arllechwedd Isaf, ond mae'n llawer mwy tebygol iddo orffen ei ddyddiau yn Abaty Ystrad Marchell, am fod ganddo gysylltiad cryf ag Owain Cyfeiliog, sylfaenydd yr abaty hwnnw, neu yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa ym Mechain.

Llawysgrifau[golygu]

Cedwir gwaith Cynddelw mewn pedair llawysgrif ganoloesol, sef Llyfr Du Caerfyrddin, Peniarth 3, Llawysgrif Hendregadredd a Llyfr Coch Hergest, yn ogystal â llawysgrifau Cymreig diweddarach sy'n seiledig ar y testunau cynharach yn y llawysgrifau hynny.

Ei gerddi[golygu]

Mae 3852 llinell o waith Cynddelw ar glawr, mwy na dwywaith cyfanswm llinellau unrhyw fardd arall o'i gyfnod. Mae'r 38 testun yn awdlau yn bennaf ond ceir hefyd cyfresi englynion.

Mawl[golygu]

Powys: Arwyrain a cherddi mawl i Fadog ap Maredudd, cerddi mawl i'w lys a'i osgordd, cerdd diolch i Llywelyn ap Madog am gorn hela. Canodd hefyd i Owain ap Madog. Cyfres o awdlau i ryfelwyr Powys. Canu i Owain Cyfeiliog a moliannau i Wenwynwyn o Bowys.

Deheubarth: Arwyrain, dadolwch a chyfres englynion i'r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth.

Gwynedd: Canodd tair arwyrain i'r brenin Owain Gwynedd, cerdd i'w fab Hywel ab Owain Gwynedd, a mawl Llywelyn Fawr.

Marwnadau[golygu]

Powys: Marwnad Madog ap Maredudd, ac un arall iddo a'i fab a'i osgordd ynghŷd, marwnad Iorwerth Goch ap Maredudd, marwnad Owain ap Madog ac un arall i Cadwallon ap Madog ab Idnerth o Faelienydd. Marwnadau i Ririd Flaidd ac Arthen ei frawd, i Einion ap Madog ab Iddon, i Ednyfed, Arglwydd Crogen, Heilyn ap Dwywg.

Gwynedd: Marwnad i osgordd Owain Gwynedd, marwnad i Ithael ap Cedifor Wyddel, marwnad y Mab Aillt o Lansadwrn.

Yn ogystal canodd farwysgafn cyn ei farw a marwnad ei gyd-fardd Bleddyn Fardd. Ei waith mwyaf teimladwy efallai yw ei farwnad i'w fab ifanc Dygynnelw.

Crefyddol[golygu]

Canu Tysyilio Sant. Awdlau i Dduw (2) a Marwysgafn (1).

I ferched[golygu]

Rhieingerdd Efa ferch Madog ap Maredudd ac awdl i ferch anhysbys.

Ymryson[golygu]

Englynion Ymryson Cynddelw a Seisyll Bryffwrch

Cerddi eraill[golygu]

Marwnad ysmala ei geiliog ei hun, englyn i fynach o Ystrad Marchell. Cerddi diolch i Hywel ab Ieuaf am gyllell ac i Ririd Flaidd am gleddyf.

Llyfryddiaeth[golygu]

Y golygiad safonol o waith Cynddelw yw:

  • Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, 2 gyfrol (Cyfres Beirdd y Tywysogion, Caerdydd, 1991, 1995)



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch