Peryf ap Cedifor
Un o Feirdd y Tywysogion a ganai yn ail hanner y 12fed ganrif oedd Peryf ap Cedifor (fl. 1170), a adnabyddir hefyd fel Peryf ap Cedifor Wyddel. Fe'i gofir yn bennaf am ei ddwy gyfres o englynion marwnad i'r bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd (m. 1170) a'i frodyr maeth, brodyr Peryf ei hun.
Fel yn achos sawl un o'r Gogynfeirdd, ni wyddys dim am Peryf ap Cedifor ar wahan i'r dystiolaeth a geir yn ei gerddi ei hun. Roedd yn fab i Gedifor Gwyddel, tad maeth Hywel ab Owain Gwynedd. Rhoddir y cyfenw 'Gwennwys' ar Gedifor ym 'Marwnad Hywel ab Owain Gwynedd', sy'n awgrymu fod Cedifor yn frodor o Went. Ond ceir marwnad i fab 'Cedifor Wyddel' gan Cynddelw Brydydd Mawr: os yr un Cedifor a olygir buasai'n cymorth i esbonio sut y daeth yn dad maeth i Hywel, gan mai Gwyddeles oedd mam Hywel, gwraig Owain Gwynedd. Mae'n bosibl felly mai brodor o Wynedd oedd Peryf.
Lladdwyd Hywel ab Owain Gwynedd a'i frodyr maeth ym mrwydr Pentraeth, Môn, yn erbyn Dafydd ab Owain Gwynedd a'i frawd Rhodri yn 1170. Ceir cyfres o englynion marwnad i'r brodyr maeth a chyres arall i Hywel ei hun. Syrthiodd pedawr o saith frawd Peryf yn y frwydr ac mae'r gerdd yn agor gyda'r llinellau teimladwy,
- Tra fuam yn saith, trisaith—ni'n beiddai,
- Ni'n ciliai cyn ein llaith,
- Nid oes, ysywaeth, o'r saith
- Namyn tri trin diolaith.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Peryf ap Cedifor', yn Kathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). Y golygiad safonol o waith Peryf ap Cedifor, yng 'Nghyfres Beirdd y Tywysogion'.