Gwernen ap Clyddno
Oddi ar Wicipedia
Un o Feirdd y Tywysogion oedd Gwernen ap Clyddno (fl. 12fed ganrif neu'r 13eg ganrif).
Gwernen yw'r lleiaf adnabyddus o'r Gogynfeirdd. Ni wyddys dim o gwbl amdano. Does dim cyfeiriad at neb arall o'r enw yn achau'r cyfnod. Mae'r enw personol Gwernen ei hun yn anghyffredin iawn; ceir enghraifft ohono yn Llyfr Llandaf (yn y ffurf Gwerngen).
Dim ond dri Englyn Unodl Union o waith Gwernen sydd wedi goroesi, sy'n rhan o gadwyn hirach sydd bellach ar goll. Cedwir y testun yn Llawysgrif Hendregadredd a chwech llawysgrif diweddarach. Tynged dyn yw testun y gerdd, sy'n sôn am ryfelwr dienw na ddaeth yn ôl o gyrch rhyfel.
Llyfryddiaeth [golygu]
- N. G. Costigan (Bosco) (gol.), 'Gwaith Gwernen ap Clyddno', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.