Llyfr Llandaf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyfr Llandaf: wynebddalen argraffiad J. Gwengovryn Evans (Rhydychen, 1893).

Llawysgrif o'r 12fed ganrif yw Llyfr Llandaf (Lladin: Liber Landavensis). Mae'r llawysgrif, sy'n cynnwys 128 o dudalennau vellum, yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes eglwysig Cymru.

Credir i Lyfr Llandaf gael ei ysgrifennu rhwng 1120 a 1140, dan arolygaeth Urban, Esgob Llandaf. Roedd anghydfod rhwwng Llandaf ac esgobion Tyddewi a Henffordd ynghylch ffiniau'r esgobaeth, a bwriad y llyfr oedd profi hawliau Llandaf. Cynhwysir copiau o nifer fawr o siarteri yn amlinellu rhoddion o dir ac eiddo cyn belled yn ôl a'r 5ed ganrif; rhai o'r siarteri yn rhai dilys ond eraill yn ffugiadau. O'r siarteri dilys, mae tua 40% yn perthyn i'r 8fed ganrif a 20% i ran olaf y 9fed ganrif. Ceir hefyd fucheddau tri sant a gysylltir a Llandaf, Dyfrig, Teilo ac Euddogwy (Oudoceus). Yn Lladin mae'r rhan fwyaf, ond mae Fraint Teilo mewn Cymraeg Canol gyda chyfeithiad Lladin.

Ychydig yn ddiweddarach, yn y 12fed ganrif a dechrau'r 13eg ganrif, ychwanegwyd bucheddau'r seintiau Samson ac Elgar a nifer o lythyrau.

Mae'r hanesydd Wendy Davies wedi ceisio ail-greu llawr o'r testunau gwreiddiol. Roedd y llawysgrif yn eiddo i deulu Davies, Llanerch yn yr 17eg ganrif. Mae yn awr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, MS 17110 E. Bwriedid ei hail-rwymo yn ystod 2007.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (eds.), The Book of Llandâv (Rhydychen, 1893; adargraffiad ffacsimili, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, 1979).
  • Wendy Davies, Early Welsh Microcosm: Studies in the Llandaff Charters (Caerdydd, 1978)
  • idem., The Llandaff Charters (Caerdydd, 1979)

Cysylltiadau allanol[golygu]