Samson (sant)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sant Samson. Llun o Lydaw.

Sant o Gymru a ymsefydlodd yn Llydaw oedd Samson (c. 485 — c. 565), Llydaweg:Samzun. Mae'n un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw.

Hanes a thraddodiadau[golygu]

Ceir buchedd Ladin gynnar i Samson, y Vita Sancti Samsonis, a ysgrifennwyd rywbryd rhwng 610 ac 820. Dywedir ei fod yn fab i Amwn o Ddyfed ac Anna o Went. Cafodd ei addysgu gan sant Illtud yn Llanilltud Fawr, a daeth sant Dyfrig yno i'w ordeinio yn ddiacon ac yn ddiweddarch yn offeiriad. Treuliodd amser ar Ynys Bŷr ym mynachlog Pŷr ei hun, a daeth yn abad yno wedi marwolaeth Pŷr.

Teithiodd i Iwerddon, lle mae eglwysi wedi eu cysegru iddo yn Ballygriffin ger Dulyn ac yn Ballysamson. Dychwelodd i Ddyfed i fyw fel meudwy am gyfnod, a chysegrodd Dyfrig ef yn esgob ar Ddydd Gŵyl Cadair Pedr. Gellir rhoi dyddiad pendant i'r digwyddiad yma o'r manylion yn ei fuchedd, sef 22 Chwefror 521. Treuliodd rai blynyddoedd yng Nghernyw; yn wir, mae yno ynys, sy'n rhan o Ynysoedd Syllan (Scilly Isles) wedi ei alw ar ei ôl. Wedi cyfnod yma, hwyliodd i Lydaw, lle sefydlodd fynachlog yn Dol. Dywedir i sant Teilo ymweld ag ef yma yn 547, wedi iddo ffoi o Gymru rhag y Fad Felen.

Dywedir iddo fedru rhyddhau Iudual, tywysog gogledd Llydaw, oedd yn cael ei ddal yn garcharot ym Mharis gan Childebert, brenin y Ffranciaid, ac ymwelodd a'r ddinas eto yn 556, pan oedd yn bresennol mewn senedd esgobol. Arwyddodd ddogfen yma fel Samson peccator episcopus.

Ei wylmabsant yw 28 Gorffennaf.

Gweler hefyd[golygu]