Ynys Bŷr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r ynys (1952)
Priordy Ynys Bŷr

Ynys fechan yn y môr ar ymyl Bae Caerfyrddin i'r de o Ddinbych y Pysgod yn Sir Benfro yw Ynys Bŷr (Saesneg: Caldey Island o'r Hen Norseg Keld-Eye 'Ynys Oer'). Mae'n cael ei henwi ar ôl y mynach cynnar Pŷr (digwydd ei enw yn ail ran enw tref Maenorbŷr, ar y tir mawr cyferbyn â'r ynys, yn ogystal). Mae'r ynys tua tair milltir o hyd, ac o hinsawdd fwyn gyda'r awel gynnes yn dod i mewn o'r Iwerydd.

Mae'r ynys wedi bod yn lle dymunol i fyw ers canrifoedd. Mae archaeolegwyr wedi darganfod olion pobl oedd yn byw yn Hen Oes y Cerrig yn Ogof Nana ar yr ynys.

Mae'n debyg ei bod fwyaf enwog am ei mynachlog. Adeiladwyd y gyntaf gan Sant Dyfrig yn y chweched ganrif. Clas Cymreig oedd y sefydliad hwnnw. Yn ôl un traddodiad, claddwyd Sant Cathen, sefydlydd Llangathen, yno. Yn amser y Normaniaid adeiladwyd priordy ar safle'r hen fynachlog ac mae rhan o'r hen adeilad yno o hyd. Yr oedd y Benedictiaid yno o 1136 tan i Harri VIII o Loegr ddiddymu'r mynachlogydd yn 1536. Sefydlodd y Sistersiaid Diwygiedig fynachlog ar yr ynys yn 1906 ac maent yno hyd heddiw.

Mewn capel heb fod ymhell o'r priordy mae carreg gyda ysgrifen Ogam ac ysgrifen Ladin arni. Mae'r ogam yn darllen - 'Dyma (golofn) Moel Dolbrochion mab .......', a'r Lladin 'Rwyf i wedi ei ddarpar â chroes. Gofynnaf i bawb a gerddo y ffordd hon weddïo dros enaid Cadwgan.'

Adeiladwyd goleudy ar yr ynys yn 1828.

Mynediad[golygu]

Mae llongau yn hwylio drosodd i'r ynys o Ddinbych y Pysgod yn rheolaidd yn nhymor yr haf.

Dolenni allanol[golygu]

Gweler hefyd[golygu]