Ynysoedd Syllan
Oddi ar Wicipedia
Llun awyr o Ynys Tresco yn Ynysoedd Syllan
Grŵp o ynysoedd yng Nghefnfor Iwerydd i'r de-orllewin o Gernyw yw Ynysoedd Syllan (Cernyweg: Ynysek Syllan; Saesneg: Isles of Scilly neu'r Scillies). Mae 'na tua 140 o ynysoedd yn y grŵp ond dim ond 5 sydd â phobl yn byw arnyn' nhw, sef St Mary's (y fwyaf), Tresco, St Martin's, St Agnes a Bryher. Arwynebedd yr ynysoedd yw tua 16 km² (6 milltir sgwar).
Cymerir mantais ar yr hinsawdd fwyn i dyfu blodau cynnar ar gyfer y farchnad Brydeinig. Ceir hefyd nifer o ffermydd llaeth a thyfir llysiau hefyd. Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yn yr haf.
| Ynys (Enw Cernyweg) |
Enw Saesneg | Poblogaeth (Cyfrifiad 2001) |
Arwynebedd (km²) | Prif trefedigaeth |
|---|---|---|---|---|
| Ynys Ennor | St Mary's | 1,666 | 6.29 | Hugh Town, Ynysoedd Syllan |
| Ynys Skaw | Tresco | 180 | 2.97 | New Grimsby, Ynysoedd Syllan |
| Ynys Brechiek | St Martin's | 142 | 2.37 | Higher Town, Ynysoedd Syllan |
| Ynys Aganas | St Agnes | 73 | 1.48 | Saint Agnes, Ynysoedd Syllan |
| Ynys Bryher | 92 | 1.32 | Bryher | |
| Ynys Keow | Gugh | |||
| Ynys Gwithial | Gweal | |||
| Ynys Samson | 0.38 | |||
| Ynys Annet | - | 0.21 | ||
| Ynys Elidius | St. Helen's | - | 0.20 | |
| Ynys Teän | - | 0.16 | ||
| Ynys Guen Hily | Great Ganilly | - | 0.13 | |
| Ynys Men an Eskob | Bishop Rock | - | 0.13 | |
| Ynys An Creeban | Crim Rocks | - | 0.13 | |
| 43 mân ynys arall | - | 0.50 | ||
| Ynysoedd Syllan (Isles of Scilly) |
2,153 | 16.03 | Hugh Town |
(1) trefedigaeth yno hyd at 1855