Pŷr

Oddi ar Wicipedia
Pŷr
Man preswylYnys Bŷr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Swyddabad Edit this on Wikidata

Sant cynnar o dde-orllewin Cymru oedd Pŷr (Lladin: Porius) (fl. hanner cyntaf y 6g, efallai). Fe'i cofir fel abad y fynachlog enwog ar Ynys Bŷr ym Mae Caerfyrddin. Digwydd ei enw yn yr enw lle Maenor Bŷr hefyd (lle ganed Gerallt Gymro).[1]

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Yn ôl y fuchedd Ladin gynnar, y Vita Sancti Samsonis, olynwyd Pŷr gan Sant Samson o Ddol. Cafodd Samson ei addysgu gan sant Illtud yn Llanilltud Fawr, a daeth sant Dyfrig yno i'w ordeinio yn ddiacon ac yn ddiweddarch yn offeiriad. Treuliodd amser ar Ynys Bŷr ym mynachlog Pŷr ei hun, a daeth yn abad yno wedi marwolaeth Pŷr. Aeth oddi yno i ymsefydlu yn Llydaw.[1]

Dydi'r manylion am fuchedd Pŷr a geir yn y vita ddim yn ffafriol iawn i'w statws fel sant. Doedd ganddo fawr o reolaeth ar y mynachod ac roedden nhw a'r abad ei hun yn bur hoff o loddesta ac yfed medd. Yn ôl traddodiad, meddwodd Pŷr un noson ac ar ei ffordd yn ôl i'w gell syrthiodd bendramwnwgl i mewn i ffynnon ar yr ynys: roedd yn gelain pan gafodd ei dynnu allan gan y mynachod.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000).