Llywarch Llaety

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o Feirdd y Tywysogion oedd Llywarch Llaety (fl. 1160). Fe'i cysylltir â Powys.[1]

Bywgraffiad[golygu]

Ni wyddys dim am y bardd ond yr hyn y gellir ei gaslgu o'r unig gerdd ganddo sydd wedi goroesi. Mawl i Lywelyn ap Madog, mab hynaf ac etifedd Madog ap Maredudd o Bowys, yw'r gerdd honno. Gan fod Llywelyn wedi cael ei ladd mewn brwydr yn fuan ar ôl marwolaeth ei dad yn 1160, gellir dweud fod y bardd wedi canu iddo rywbryd cyn hynny. Mae ei gyfenw llaety yn ffurf ar y gair llaethdy; awgrym efallai nad oedd o dras uchel.[1]

Ceir ansicrwydd pellach yn y ffaith fod y testun o gerdd Llywarch Llaety yn Llawysgrif Hendregadredd (y testun cynharaf) yn digwydd yng nghanol adran o gerddi Llywarch ap Llywelyn (fl. 1173-1220). Arweiniodd hyn i'r ysgolhaig Joseph Loth awgrymu mai ffugenw'r Llywarch ap Llywelyn ifanc ydoedd, ond mae dyddiad gwrthrych y gerdd yn llawer rhy gynnar i hynny. Llawer mwy tebygol yw'r awgrym mai'r un yw Llywarch Llaety â Llywarch y Nam, ond nid oes modd profi hynny.[1]

Mawl Llywelyn ap Madog[golygu]

Dyma'r unig gerdd gan Lywarch sydd wedi goroesi. Cyfres o 17 o Englynion Unodl Union a dechrau deunawfed yw'r gerdd, sy'n anghyflawn. Ymddengys fod march yn cael ei anfon fel negesydd. Holi ac ateb, fesul dau englyn, am filwriaeth Llywelyn ap Madog a geir yn rhan gyntaf y gerdd, sy'n dwyn adlais o ffurfiau tebyg yn Englynion y Beddau. Dyma enghraifft o un o'r englynion holi sy'n cyfleu naws y canu:

Piau y cadfarch cadflaen a'i gorfaidd,
A'r gorfod dihafarch,
A'r gŵr a'r gwŷr am ei barch,
A'r gwayw a'r gwân anghyfarch?[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Nerys Ann Jones (gol.), 'Gwaith Llywarch Llaety', yn Kathleen A. Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion.'

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Nerys Ann Jones (gol.), 'Gwaith Llywarch Llaety'.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch