Llywarch ap Llywelyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o'r mwyaf o'r beirdd llys Cymraeg a adnabyddir fel Beirdd y Tywysogion oedd Llywarch ap Llywelyn, y cyfeirir ato hefyd wrth ei enw barddol Prydydd y Moch (fl. 1173 - 1220). Fe'i cysylltir â llys Teyrnas Gwynedd yn nheyrnasiad Dafydd ab Owain Gwynedd a Llywelyn Fawr. Roedd yn fardd cenedlaetholgar iawn ac mae ei gefnogaeth frwd i bolisi Llywelyn Fawr o uno Cymru yn elfen amlwg yn ei farddoniaeth.[1]

Bywgraffiad[golygu]

Ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Mae'n debygol iawn mai brodor o gwmwd Is Dulas yng nghantref Rhos, yn y Berfeddwlad, oedd Llywarch. Mae Arolwg Arglwyddiaeth Dinbych a wnaed yn 1334 yn cofnodi 'Gwely Prydydd y Moch' (ystyr 'gwely' yw "tir"). Mae'n bosibl y cafodd y bardd y tir fel nawdd gan Llywelyn Fawr. Cofnodir 'Melin Prydydd y Moch' hefyd, a byddai'r bardd yn derbyn ffioedd sylweddol am gael malu ŷd ffermwyr yr ardal.[2]

Mae ei ffugenw 'Prydydd y Moch' yn cael ei ddadansoddi mewn sawl ffordd. Mae'n bosibl ei fod yn deillio o linellau herfeiddiol iawn mewn cerdd bygwth i Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd lle mae'n cymharu canu i'r tywysog hwnnw i "heu rhag moch merierid" ('taflu perlau i'r moch', cyfeiriad amlwg at yr adnod Beiblaidd yn Efengyl Mathew). Posiblrwydd arall yw mai meichiad - un sy'n cadw moch - oedd y bardd yn ei ieuenctid, cyn iddo ymddyrchafu yn fardd. Yn ardal Llangernyw cofnodir 'Gafael Prydydd y Moch' ('gafael'="tir") hefyd (cofnodir yn Llyfr Coch Asaph a ffynonellau eraill).[3]

Nid yw'n amhosibl fod y bardd Dafydd Benfras, a'i olynodd fel pencerdd llys Gwynedd, yn fab iddo.

Cerddi[golygu]

Cedwir 19 awdl o waith y bardd, cyfanswm o 1,318 o linellau, ac 11 cyfres o englynion (462 llinell). Mae hyn yn gorff o ganu sy'n ail yn unig i waith Cynddelw Brydydd Mawr. Ceir sawl cerdd i dywysogion ac arglwyddi Gwynedd, sef Dafydd ab Owain Gwynedd, Rhodri ab Owain Gwynedd, Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd, Maredudd ap Cynan o Wynedd, Hywel ap Gruffudd o Feirionnydd, Gruffudd ap Hywel a Gruffudd ap Llywelyn: ond ei waith amlycaf yw ei ganu i'w noddwr pwysicaf Llywelyn Fawr. Mae'r canu hwn yn cynnwys 'Y Canu Mawr' ac 'Y Canu Bychan', lle gwelir cenedlgarwch y bardd a'i deyrngarwch at Lywelyn ar ei grymusaf.[4]

Canodd hefyd i Fadog ap Gruffudd Maelor o Bowys, Iorwerth ap Rhotbert o Arwystli, a Rhys Gryg o Ddeheubarth. Yr unig gerddi ganddo ar glawr sy ddim yn gerdd fawl neu farwnad i noddwyr yw ei awdl foliant i Gwenllïan ferch Hywel o Wynllŵg ac 'Awdl yr Haearn Twym'.[5]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Elin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). Y golygiad safonol o waith y bardd, yng 'Nghyfres Beirdd y Tywysogion'.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Elin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn (Caerdydd, 1994).
  2. Elin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn (Caerdydd, 1994).
  3. Elin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn (Caerdydd, 1994).
  4. Elin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn (Caerdydd, 1994).
  5. Elin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn (Caerdydd, 1994).



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch