Gwilym Rhyfel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yr oedd Gwilym Rhyfel neu Gwilym Ryfel (fl. 1170au), yn fardd llys a ganai yng Ngwynedd a Powys yn hanner olaf y 12fed ganrif.[1]

Bywgraffiad[golygu]

Ychydig a wyddys am fywyd y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o'i cerddi. Canai i noddwyr yng Ngwynedd Uwch Conwy ond ceir cyfeiriad at Degeingl hefyd sy'n awgrymu cysylltiad posibl â'r rhan honno o'r Berfeddwlad. Canodd ei gyd-fardd Gruffudd ap Gwrgenau farwnad iddo sy'n dangos ei fod yn frodor o Bowys a'i fod wedi marw mewn brwydr ymhell o'i fro enedigol. Mae hynny yn ei dro yn ategu'r awgrym yn enw'r bardd mai bardd-ryfelwr ydoedd, fel Dafydd Benfras a rhai eraill o'r Gogynfeirdd. Cyfeirir ato gyda pharch gan Iorwerth Beli (14eg ganrif) fel un o brif feirdd y traddodiad, gyda Cynddelw Brydydd Mawr, Llywarch ap Llywelyn ("Prydydd y Moch") a Dafydd Benfras.[2]

Cerddi[golygu]

Dim ond pedair cerdd o waith y bardd sydd wedi goroesi, sef dwy gyfres o englynion i'r tywysog Dafydd ab Owain Gwynedd, ynghyd â dau englyn i farch a ddyfynnir yng Ngramadeg Einion Offeiriad (14eg ganrif) fel enghraifft o'i waith.[3]

Roedd Dafydd ab Owain yn fab hynaf Owain Gwynedd trwy ei gyfnither Cristin. Mae un o'r cerddi iddo yn gerdd dadolwch (cerdd sy'n erfyn am gymod) ac ymddengys fod y bardd wedi digio'i noddwr. Mae'r ail yn gyfres o dri englyn unodl union a ganwyd, mae'n debyg, tua 1174-1175 yn y flwyddyn brin pan ymestynnai awdurdod Dafydd dros y rhan fwyaf o Wynedd.[4]

Ac eithrio'r ddau englyn yng Ngramadeg Einion Offeiriad, cedwir y testunau yn Llawysgrif Hendregadredd.[5]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • J. E. Caerwyn Williams (gol.), 'Gwaith Gwilym Rhyfel', yn Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol VI.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. J. E. Caerwyn Williams (gol.), 'Gwaith Gwilym Rhyfel'.
  2. J. E. Caerwyn Williams (gol.), 'Gwaith Gwilym Rhyfel'.
  3. J. E. Caerwyn Williams (gol.), 'Gwaith Gwilym Rhyfel'.
  4. J. E. Caerwyn Williams (gol.), 'Gwaith Gwilym Rhyfel'.
  5. J. E. Caerwyn Williams (gol.), 'Gwaith Gwilym Rhyfel'.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch