Dafydd ab Owain Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Dafydd ab Owain Gwynedd (bu farw 1203) yn frenin Gwynedd neu rannau o'r deyrnas rhwng 1170 a 1195. Am gyfnod bu'n teyrnasu ar y cyd a'i frodyr Maelgwn ab Owain Gwynedd a Rhodri ab Owain Gwynedd.

Hanes ei fywyd[golygu]

Yr oedd Dafydd yn fab i Owain Gwynedd o'i wraig Cristin ferch Goronwy. Oherwydd fod Cristin yn gyfnither i Owain, nid oedd yr eglwys yn cydnabod y briodas, ac felly ystyrid Dafydd yn blentyn gordderch. Clywir amdano gyntaf yn 1157 pan ymosododd y brenin Harri II o Loegr ar Wynedd. Yr oedd Dafydd yn bresennol yn yr ysgarmes yng nghoed Penarlâg pan fu bron i Harri gael ei ladd. Yn 1165 yr oedd wedi ymsefydlu yn Nyffryn Clwyd ac mae cofnod amdano'n ymosod ar Degeingl.

Pan fu Owain farw yn 1170, aeth yn ymrafael rhwng ei feibion am y deyrnas. Ymosododd Dafydd a Rhodri ar eu brawd Hywel ab Owain Gwynedd, a'i yrru ar ffo i Iwerddon. Pan ddychwelodd Hywel gyda byddin o Iwerddon yr un flwyddyn, lladdwyd ef mewn brwydr ym Mhentraeth. Yn 1173, gyrrodd Dafydd ei frawd Maelgwn ar ffo i Iwerddon, a bu brawd arall, Cynan, farw yn 1174. Yr un flwyddyn llwyddodd Dafydd i ddal a charcharu Maelgwn (oedd wedi dychwelyd o Iwerddon) a Rhodri, gan ddod yn frenin Gwynedd oll. Y flwyddyn honno hefyd priododd Emme o Anjou, merch i Sieffre o Anjou a hanner chwaer i'r brenin Harri.

Yn 1175 llwyddodd Rhodri i ddianc o garchar ac ymosodd ar ei frawd. Collodd Dafydd y rhan o Wynedd i'r gorllewin o Afon Conwy. Yn 1177 rhoddodd Harri II arglwyddiaethau Ellesmere a Hales iddo. Adeiladodd gastell yn Rhuddlan ac mae cofnod am Gerallt Gymro yn aros noson yno ar ei daith trwy Gymru.

Yn 1194 wynebodd Dafydd fygythiad arall, sef ei nai Llywelyn ap Iorwerth, a lwyddodd i'w orchfygu mewn brwydr yn Aberconwy gyda chymorth meibion Cynan ab Owain Gwynedd. Yn 1197 gallodd Llywelyn ddal Dafydd a'i garcharu. Fe'i rhyddhawyd y flwyddyn wedyn ar gais Hubert Walter, Archesgob Caergrawnt, ac aeth i fyw i'w faenorau yn Lloegr. Bu farw yno ym mis Mai 1203.

Noddwr y beirdd[golygu]

Cedwir dwy gerdd i Ddafydd ab Owain Gwynedd gan y bardd-ryfelwr Gwilym Rhyfel. Er nad oes modd profi hynny, mae'n bosibl fod Gwilym yn aelod o osgordd y tywysog; bu farw mewn brwydr.

Cyfeiriadau[golygu]

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
O'i flaen :
Owain Gwynedd
Tywysog Gwynedd Olynydd :
Llywelyn Fawr