Harri II, brenin Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brenin Harri II

Harri II o Loegr (25 Mawrth, 1133 - 6 Gorffennaf, 1189) oedd brenin Lloegr o 25 Hydref, 1154 hyd at ei farw.

Roedd yn fab i'r Ymerawdres Matilda a Geoffrey Plantagenet. Cafodd ei eni yn Anjou. Ei wraig oedd Eleanor o Aquitaine. Harri oedd tad y brenhinoedd Rhisiart I, brenin Lloegr a John, brenin Lloegr.

Derbyniodd ddugiaeth Normandi gan ei dad yn 1150, yna ar farwolaeth ei dad yn 1151, etifeddodd Anjou a Maine. Yn 1152 daeth yn ddug Aquitaine trwy briodi Eleanor o Aquitaine, yna yn 1154 etifeddodd goron Lloegr. Bu farw yn y Castell Chinon.

Llysenwau: "Curt Mantle", "Fitz Empress", "Y Llew Cyfiawnder".

Plant[golygu]

  • Wiliam (1153-1156)
  • Harri, y brenin ieuanc (1155-1183)
  • Matilda, neu Maud (1156–1189)
  • Rhisiart I (1157-1199)
  • Sieffre, Dug Llydaw (1158-1186)
  • Eleanor, brenhines Castile (1162–1214)
  • Joanna, brenhines Sisili (1165–1199)
  • John (1167-1216)

Cymru[golygu]

Ceisiodd Harri II oresgyn teyrnas Gwynedd a gweddill Cymru yn 1157 ac eto yn 1163 a 1165.

Ym 1164, ymunodd y Gymru rydd gyfan, sef teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth, ynghyd ag arglwyddi Cymreig Rhwng Gwy a Hafren, ag Owain Gwynedd yn ei ryfel dros gadw annibyniaeth Cymru yn erbyn Harri II. Ar ôl buddugoliaethau gan y Cymry yn ardal Tegeingl, paratôdd brenin Lloegr fyddin fawr i ymosod ar Gymru. Cynulliodd byddin y Saeson yn arglwyddiaeth Croesoswallt yn haf 1165 tra arosai'r Cymry yr ochr arall i'r Berwyn. Ceisiodd Harri II arwain ei fyddin i fyny Dyffryn Ceiriog gyda'r bwriad o groesi'r Berwyn a thorri'r llinell rhwng gogledd a de Cymru, ond roedd y tywydd yn ei erbyn. Glawiodd yn drwm a suddai ei farchogion ar eu meirch rhyfel trwm i'r llaid ac felly hefyd y milwyr traed. Roedd y Cymry yn aros eu cyfle. Ar ôl aros i'r Saeson gyrraedd man cyfyng a choediog yng Nghrogen ger Tregeiriog, ymosodasant ar golofnau blaen y fyddin Seisnig a'u dinistrio. Ffôdd gweddill y fyddin yn ôl i'r Gororau ac roedd ymgyrch brenin Lloegr ar ben. Cyfeirir at y frwydr fel Brwydr Crogen.

Rhagflaenydd:
Steffan
Brenin Lloegr
25 Hydref 11546 Gorffennaf 1189
Olynydd:
Rhisiart I


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.