Eleanor o Aquitaine

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arch carreg Eleanor o Aquitaine, yn Abaty Fontrévault (Normandi)

Roedd Eleanor o Aquitaine (1122 - 1 Ebrill, 1204 (neu 31 Mawrth 1204)) yn frenhines yn ei thro i Louis VII, brenin Ffrainc a Henri Plantagenet, brenin Lloegr a Comte d'Anjou, sef Harri II, brenin Lloegr.

Alia Aenor neu Aliaenor yw ei henw go iawn, ond fe'i hadnabyddir fel Eleanor o Aquitaine. Roedd Eleanor yn wraig i Louis VII rhwng 1137 a 1152. Roedd hi'n wraig ar ôl hynny i Harri II rhwng 1153 a marwolaeth Harri yn 1189. Trwy ei phriodasau dynastig daeth yr ymerodraeth Angevin i fodolaeth. Eleanor oedd mam y brenhinoedd Rhisiart I a John ar Loegr.

Roedd Eleanor yn adnabyddus fel gwraig ddiwylliedig a noddai feirdd a llenorion fel y trwbadŵr Bernard de Ventadour.