Normandi

Oddi ar Wicipedia
Normandi
Mathtalaith hanesyddol yn Ffrainc, ardal hanesyddol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLlychlynnwyr Edit this on Wikidata
PrifddinasCaen, Rouen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Yn ffinio gydaprovince of Brittany Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49°N 0.000000°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Normandi (yn hanesyddol Norddmandi; Ffrangeg: Normandie, Ffrangeg Normanaidd: Normaundie) yn rhanbarth daearyddol a hanesyddol yr arferid ei alw'n Ddugiaeth Normandi. Lleolir Normandi ar hyd arfordir Ffrainc i'r de o Fôr Udd rhwng Llydaw i'r gorllewin a Picardi i'r dwyrain. Rhennir y diriogaeth rhwng sofraniaeth Ffrengig a Phrydeinig. Mae'r ardal sydd o dan sofraniaeth Ffrengig yn gorchuddio 30,627 km², sydd tua 5% o holl dir Ffrainc. Am resymau gweinyddol, rhennir Normandi yn ddau ranbarth: Basse-Normandie a Haute-Normandie. Mae Ynysoedd y Sianel (y cyfeirir atynt fel yr Iles Anglo-Normandes yn Ffrangeg, sef yr 'Ynysoedd Eingl-Normanaidd') yn gorchuddio 194 km² ac yn cynnwys dwy feilïaeth, Guernsey a Jersey, ac mae'r ddwy ohonynt o dan reolaeth Coron Prydain, er nad ydynt yn rhan o'r DU.

Mae Haute-Normandie (Normandi Uchaf) yn cynnwys y départements Ffrengig Seine-Maritime ac Eure, tra bod Basse-Normandie (Normandi Isaf) yn cynnwys adrannau Orne, Calvados, a Manche.

Yn ystod Brwydr Normandi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth Normandi yn safle lanio ar gyfer ymosod ar Ewrop a'i rhyddhau o Natsïaeth yr Almaen.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]