Poitiers
Oddi ar Wicipedia
Dinas ar Afon Clain yn ngorllewin canolbarth Ffrainc yw Poitiers. Hi yw prif ddinas département Vienne a région Poitou-Charentes .
Saif Poitiers ar y Seuil du Poitou, tir isel rhwng Massif Armorica a'r Massif Central. Sefydlwyd y dref gan lwyth y Pictones dan yr enw Limonum. Ar ôl y cyfnod Rhufeinig, daeth yn eiddo'r Fisigothiaid, yna'r Ffranciaid.
Ymladdwyd Brwydr Tours, a elwir hefyd yn Frwydr Poitiers, gerllaw Poitiers ar 10 Hydref, 732. Gorchfygodd Siarl Martel fyddin Islamaidd. Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, ymladdwyd Brwydr Poitiers yma yn 1356. Sefydlwyd Prifysgol Poitiers yn 1431.
Roedd yn boblogaeth yn 2006 yn 90,000.