Brwydr Poitiers (1356)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brwydr Poitiers o lawysgrif Froissart

Ymladdwyd Brwydr Poitiers gerllaw dinas Poitiers yn Ffrainc ar 19 Medi 1356, rhwng byddin Seising dan Edward, y Tywysog Du, mab hynaf Edward III, brenin Lloegr, a byddin Ffrengig dan Jean II, brenin Ffrainc. Roedd yn un o frwydrau mwyaf y Rhyfel Can Mlynedd.

Roedd Edward, y Tywysog Du, wedi cychwyn ymgyrch, chevauchée tua'r gogledd o'i feddiannau yn Aquitaine ar 8 Awst, gyda'r bwriad o godi'r gwarchae ar nifer o drefi, a gwneud hynny o ddifrod a fedrai i'r wlad. Symudodd y fyddin Ffrengig yn ei erbyn, ac enciliodd Edward i gyfeiriad Poitiers. Ar 19 Medi, roedd wedi cymeryd safle amddiffynnol, gyda'r saethyddion Cymreig a Seisnig ar ddwy asgell ei fyddin. Roedd y marchogion, dan Jean de Grailly, y Captal de Buch, wedi eu cuddio.

Ymosododd marchogion y Ffrancwyr, ond dioddefasant golledion pan saethodd y saethyddion at eu ceffylau. Yma ymosododd y gwŷr traed, ond gorfodwyd y garfan gyntaf i encilio. Symudodd y garfan oedd dan reolaeth uniongyrchol y brenin Jean ymlaen i ymosod, ond tra'r oedd y brwydro ar ei anterth, ymosododd y marchoglu dan y Captal de Buch ar ystlys y Ffrancwyr. Gan gredu eu bod ar fîn cael eu hamgylchynu, ffôdd y gwŷr traed Ffrengig, gan ddioddef colledion trwm. Cymerwyd y brenin Jean II yn garcharor.

Heblaw'r saethyddion Cymreig, roedd nifer o uchelwyr Cymreig yn y fyddin Seisnig. Yr un a enillodd fwyaf o enwogrwydd oedd Syr Hywel y Fwyall neu Hywel ap Gruffudd; roedd traddodiad yng Nghymru mai ef a gymerodd frenin Ffrainc yn garcharor. Cafodd Syr Hywel lwfans bwyd iddo ef ei hun a'i fwyell enwog yn ogystal, rhenti melinau yng Nghaer ac, yn ddiweddarach, gwnstabliaeth Castell Cricieth, i gyd gan y tywysog yn ddiolch iddo am ei wrhydri. Yn ôl y croniclydd Jean Froissart, roedd Owain Lawgoch yn ymladd ar ochr Ffrainc yn y frwydr hon, ond nid oes tystiolaeth i gadarnhau hyn.