Mari I, brenhines Lloegr
Bu Mari I (neu Mari Tudur) (18 Chwefror 1516 - 17 Tachwedd 1558) yn frenhines Lloegr ac Iwerddon o 19 Gorffennaf 1553 hyd at ei marwolaeth ym 1558. Merch Harri VIII, brenin Lloegr a'i wraig gyntaf Catrin o Aragon oedd hi.
Ar ôl ennill y goron ym 1553 ar farwolaeth ei brawd hŷn, Edward VI, penderfynodd Mari ailsefydlu Catholigiaeth Rufeinig yng Nghymru a Lloegr. Yn sgil ei phenderfyniad, gorfodwyd i lawer o Brotestaniaid encilio i'r Cyfandir, gan gynnwys nifer o Gymry blaenllaw megis Richard Davies. Llosgwyd bron tri chant o ferthyron Protestannaidd yn ystod ei theyrnasiad, gan gynnwys tri yng Nghymru, Rawlins White yng Nghaerdydd, Robert Ferrar yng Nghaerfyrddin a William Nichol yn Hwlffordd.
Priododd y brenin Felipe II o Sbaen ar y 25 Gorffennaf 1554. Roedd yn briodas amhoblogaidd iawn yn Lloegr.
Ar ôl marwolaeth sydyn Mari ym 1558, ailgyflwynodd ei hanner chwaer Elisabeth y grefydd Brotestannaidd yng Nghymru a Lloegr.
Ffynonellau [golygu]
- Davies, John. Hanes Cymru (Llundain: Penguin, 1990)
| Rhagflaenydd: Edward VI |
Brenhines Lloegr 19 Gorffennaf 1553 – 17 Tachwedd 1558 |
Olynydd: Elisabeth I |
Hanes [golygu]
Cyn iddi droi'n frenhines cyntaf Lloegr, roedd Edward VI eisiau i'w gefnither ei ddilyn ef yn y rhes brenhinol. Ond ar ol brwydr hyr-dymor, ennillodd Mari y siawns i fod yn frenhines. Ond roedd ganddi barn cryf am ddewisiadau Edward am effiethiau crefyddol. Dewisiodd dilyn Catholigion, trwy ladd unrhyw un a oedd yn mynd yn erbyn ei dewisidau hi fel rheolwr y wlad. Yn anwedig y bobl protestanaidd a oedd yn erbyn credoau Catholigion am rheolau'r eglwys a sut i addoli a dilyn credoau Duw.
Mi roedd dadlau hir am bodoliaeth baban Mari a oedd gyda teimlad am bron flwyddyn cyn iddi deall fod nad baban oedd e ond cwympodd mewn i salwch, cyn ei marwolaeth sydyn.