Carlos, Tywysog Asturias

Oddi ar Wicipedia
Carlos
Tywysog of Asturias
Portread gan Alonso Sánchez Coello, 1564
Ganwyd8 Gorffennaf 1545
Valladolid, Spain
Bu farw24 Gorffennaf 1568(1568-07-24) (23 oed)
Madrid, Spaen
CladdwydEl Escorial
TeuluHabsburg
TadFelipe II, brenin Sbaen
MamMaria Manuela, Tywysoges Portiwgal
CrefyddCatholig

Carlos, Tywysog Asturias, a elwir hefyd yn Don Carlos (8 Gorffennaf 1545 - 24 Gorffennaf 1568), oedd mab hynaf ac edling Brenin Felipe II o Sbaen. Ei fam oedd Maria Manuela o Bortiwgal, merch John III o Bortiwgal. Roedd Carlos yn ansefydlog yn feddyliol a chafodd ei garcharu gan ei dad yn gynnar yn 1568, lle bu farw ar ôl hanner blwyddyn yn gaeth ar ei ben ei hun. Roedd ei dynged yn thema yn Chwedl Ddu Sbaen, ac ysbrydolodd ddrama gan Friedrich Schiller ac opera gan Giuseppe Verdi.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Carlos yn Valladolid ar 8 Gorffennaf 1545, yn fab i'r cefndryd cyntaf dwbl Felipe o Sbaen a María Manuela o Bortiwgal. Ei dad-cu tadol, yr Ymerawdwr Siarl V, oedd brenin Sbaen ar adeg ei enedigaeth. Bu farw Maria bedwar diwrnod ar ôl genedigaeth ei mab o waedlif yr oedd wedi'i ddioddef yn dilyn yr enedigaeth.[1]

Roedd yr Infante Carlos ifanc yn fregus ac yn gamffurfiedig. Pan oedd yn oedolyn ifanc dechreuodd ddangos arwyddion o ansefydlogrwydd meddyliol. Mae'n debygol bod llawer o'i broblemau corfforol a seicolegol wedi deillio o'r mewnfridio sy'n gyffredin i'w deulu, Tŷ Habsburg, a thai brenhinol Portiwgal (Tŷ Aviz) a Sbaen. Dim ond pedwar hen dad-cu a oedd gan Carlos yn lle'r uchafswm o wyth,[2][3] ac roedd gan ei rieni yr un cyfernod cyd-dras (1/4) â phe baent yn hanner brodyr a chwiorydd. Dim ond chwech hen hen fam-gu a thad-cu oedd ganddo, yn lle'r uchafswm o 16; roedd ei mam-gu famol a'i dad-cu tadol yn frawd a chwaer, roedd ei dad-cu a'i fam-gu hefyd yn frawd a chwaer, ac roedd ei ddwy hen fam-gu yn chwiorydd.

Portread o Don Carlos gan Alonso Sánchez Coello, 1560

Blynyddoedd Cynnar[golygu | golygu cod]

Collodd Carlos ei fam bedwar diwrnod ar ôl ei eni. Cafodd ei magu gan ei fodrybedd ac, ar ôl eu priodasau, gydag aelodau eraill o'r teulu. Yn ôl y butain Gramiz, roedd Carlos yn blentyn maldodus, yn ansefydlog yn emosiynol, ac nid oedd yn ddeallus iawn. Cafodd ei addysgu yn yr Universidad de Alcalá de Henares ynghyd â Juan o Awstria ac Alexander Farnese.

Mae'r disgrifiadau o'i ymddygiad yn awgrymu ei fod yn dioddef o broblemau meddyliol difrifol. Roedd sôn yn llys Sbaen ei fod yn mwynhau rhostio anifeiliaid yn fyw, ac ar un achlysur dallodd yr holl geffylau yn y stablau brenhinol. Yn un ar ddeg oed gorchmynnodd i forwyn cael ei chwipio am ddim rheswm. Roedd llysgennad Fenis, Hieronymo Soranzo, yn credu bod Carlos yn "hyll a ffiaidd" a honnodd fod Carlos yn hoffi rhostio anifeiliaid yn fyw, ac unwaith iddo geisio gorfodi crydd i fwyta esgidiau nid oedd yn foddhaol. Ysgrifennodd Fenisiwr arall, Paolo Tiepolo: "Nid oedd ef [y Tywysog Carlos] yn dymuno astudio nac ymarfer corff, ond niweidio eraill yn unig."[4]

O 1554 ymlaen, roedd Juan o Awstria yn gofalu am ei addysg a'i lyfrgell. Roedd y llyfrgell llawn llyfrau ar hanes Sbaen, hanes Aragoneg, hanes Portiwgal, mathemateg, seryddiaeth a chartograffeg. Nid oedd ganddo lyfrau yn Lladin, a oedd yn rhyfedd o ystyried ei oedran a'i reng, ond roedd ganddo lyfrau amrywiol mewn Portiwgaleg a dechreuodd ddysgu Almaeneg ym 1566. Awgrymir na wnaeth y damwain 1562 niweidio ei allu deallusol, er bod hyn yn aneglur.[5]

Ym 1556, gwnaeth yr Ymerawdwr Siarl V ymddeol yr orsedd ac aeth i ymddeol ym Mynachlog Yuste yn ne Sbaen, gan adael Sbaen ei ymerodraeth i'w fab, Felipe, tad Carlos. Bu farw'r cyn ymerawdwr ym 1558, a'r flwyddyn ganlynol, gwnaeth y Tywysog Carlos ddyweddïo ag Elisabeth o Valois, merch hynaf y Brenin Harri II o Ffrainc. Fodd bynnag, am resymau gwleidyddol priododd Elisabeth dad Carlos, y Brenin Felipe, yn lle yn 1560.

Roedd iechyd Carlos o hyd yn wan. Yn 14 oed aeth yn sâl gyda malaria,[6] a achosodd camffurfiannau difrifol yn ei goesau a'i asgwrn cefn. Yn 1561 fe wnaeth meddygon y llys ei argymell i symud yn barhaol i Alcalá de Henares er lles ei iechyd, gan fod yr hinsawdd yn fwynach. Roedd Carlos trwy'r amser yn cwyno am wrthwynebiad ei dad i roi swyddi awdurdod iddo. Yn y pen draw rhoddodd y Brenin swydd iddo yng Nghyngor Castile ac un arall yng Nghyngor Aragon. Gwylltiodd hyn Carlos ymhellach, gan fod y ddau ond yn ymgynghorol. Ni ddangosodd unrhyw ddiddordeb yn y cynghorau nac mewn ymgyfarwyddo â materion gwleidyddol.[7]

Etifeddiaeth ac anaf i'r pen[golygu | golygu cod]

Portread o Don Carlos gan Jooris van der Straeten

Yna awgrymwyd tair priodferch arall i'r Tywysog: Mari, Brenhines yr Alban; Marguerite de Valois, merch ieuengaf Harri II o Ffrainc; ac Anna o Awstria (a ddaeth yn ddiweddarach yn bedwaredd wraig i Felipe II, ac oedd yn ferch i gefnder Felipe, yr Ymerawdwr Maximilian II ac i Maria, chwaer Felipe). Cytunwyd ym 1564 y dylai Carlos briodi Anna.[1] Cyn ei ddamwain, addawodd ei dad iddo reoli'r Gwledydd Isel ym 1559. Ond oherwydd ansefydlogrwydd meddyliol cynyddol Carlos ar ei ôl ei ddamwain, â'i ymddygiad sadistaeth, newidiodd ei dad ei meddwl, ac felly gwylltiodd Carlos ymhellach.

Ym 1560 pan oedd Carlos yn 15 oed cydnabuwyd ef yn edling i orsedd Castile. Tair blynedd yn ddiweddarach cydnabuwyd yn edling i Goron Aragon hefyd. Pe bai wedi byw yn ddigon hir byddai ganddo honiad da i orsedd Portiwgal hefyd. Felly oherwydd ei bwysigrwydd roedd yn aml yn mynychu cyfarfodydd y Cyngor Gwladol (a oedd yn delio â materion tramor) ac roedd yn gohebu â'i fodryb Margaret, a oedd yn llywodraethu'r Gwledydd Isel ar gyfer Felipe.[8]

Yn 1562, cafodd anaf difrifol i'w ben yn cwympo i lawr y grisiau wrth erlid morwyn. Roedd y tywysog bron a marw, mewn poen ofnadwy ac yn dioddef rhithdybiau.[1] Ar ôl ceisio pob math o feddyginiaethau, arbedwyd ei fywyd trwy drepannu ei benglog, a berfformiwyd gan yr anatomegydd enwog Andreas Vesalius.[9] Ar ôl iddo wella, daeth Carlos hyd yn oed yn wannach, gyda thymer mwy ansefydlog ac ymddygiad mwy anrhagweladwy. Symudodd ei dad ef ffwrdd o unrhyw swydd bwerus neu ddylanwadol.

Gwallgofrwydd, bradwriaeth ac ymgais tadleiddiad[golygu | golygu cod]

Ei arfbais fel Tywysog Asturias (1560–1568).

Roedd ei rwystredigaeth a'i broblemau meddyliol yn ddefnyddiol i garfannau gwrthryfelwyr yn y Gwledydd Isel. Ym 1565, gwnaeth Carlos gysylltiadau â chynrychiolydd i Iarll Egmont a Philip o Montmorency, o'r Gwledydd Isel. Roedd y rhain ymhlith arweinwyr y gwrthryfel yn erbyn Felipe. Cynlluniodd Carlos dianc i'r Iseldiroedd a datgan ei hun yn frenin, gyda chefnogaeth y gwrthryfelwyr. Methodd ar ôl cyfaddef y cynllun i Ruy Gómez de Silva, a oedd yn ffyddlon i'r Brenin. Ym 1566, sefydlodd Floris o Montmorency gysylltiadau newydd ag ef yn enw'r Iarll Egmont a Philip o Montmorency, i ailadrodd y plot blaenorol.

Ym 1567 dangosodd Carlos ei ansefydlogrwydd meddyliol ymhellach. Wrth gerdded fe wnaeth dŵr a daflwyd o ffenestr ei dasgu ar ddamwain. Gorchmynnodd i'r tŷ gael ei roi ar dân. Ceisiodd drywanu a lladd y Dug Alba yn gyhoeddus ac yng ngolau dydd. Ceisiodd daflu gwas a oedd yn ei drafferthu trwy ffenest llawr uchaf y palas, ac yn yr un flwyddyn cheisiodd hefyd ladd gwarchodwr a oedd hefyd wedi ei anfodloni.[9]

Yn hydref 1567, gwnaeth ymgais arall i ddianc i'r Iseldiroedd trwy ofyn i John o Awstria fynd ag ef i'r Eidal. Roedd John yn ffyddlon i'r Brenin ac yn ymwybodol o gyflwr meddyliol Carlos. Ymgynghorodd â'r brenin, a wadodd ganiatâd ar gyfer y daith ar unwaith.[9]

O ganlyniad, ceisiodd Carlos lofruddio John. Galwodd John o Awstria i'w ystafell, lle ceisiodd ei saethu dro ar ôl tro. Methodd yr ymgais oherwydd bod un o'r gweision ymyrred â'r gwn yn gyntaf. Gwylltiodd Carlos gymaint ceisiodd ymosod ar John yn ddi-arf. Yn y pen draw cyhoeddodd i amryw o bobl yn y llys ei awydd i lofruddio'r Brenin. Does dim cytundeb os ceisiodd hynny neu beidio. Ar ôl y digwyddiad hwnnw, carcharodd Felipe y tywysog yn ei ystafelloedd gydag ond cysylltiadau cyfyngedig â'r byd allanol.[9]

Ychydig cyn hanner nos ar 17 Ionawr 1568, aeth Felipe II, mewn arfwisg a chyda phedwar cynghorydd, i mewn i ystafell wely Don Carlos yn Alcázar Madrid. Gwnaethant ei arestio, cipio'i bapurau a'i arfau, a hoelio'r ffenestri ar gau.[1][1][9] Ers i Carlos fygwth hunanladdiad, gwaharddodd y brenin ef rhag cael cyllyll neu ffyrc yn ei ystafell. Fe wnaeth Carlos hefyd roi cynnig ar streic lwgu, ond methodd.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Ceisiodd Felipe egluro absenoldeb ei fab i'r cyhoedd a'r llysoedd Ewropeaidd heb ddatgelu ei broblemau na'i gyflwr meddwl go iawn, gan obeithio y byddai'n gwella yn y pen draw. Defnyddiodd Wiliam Tywysog Orange y diffyg tryloywder hwn i danio propaganda gwrth-ymerodrol. Ar 24 Gorffennaf 1568, bu farw'r tywysog yn ei ystafell, yn ôl pob tebyg o ganlyniad i'w iechyd bregus. Defnyddiwyd ei farwolaeth fel un o elfennau craidd Chwedl Ddu Sbaen yn yr Iseldiroedd, a oedd angen cyfiawnhau gwrthryfel yn erbyn y brenin. Yn ddiweddarach honnwyd iddo gael ei wenwyno ar orchmynion y Brenin Felipe.[9] Erbyn hyn mae haneswyr modern yn credu bu farw Don Carlos o achosion naturiol. Tyfodd Carlos yn denau iawn ac mae rhai wedi dehongli ei "streiciau lwgu" fel anhwylder bwyta a ddatblygodd yn ystod ei garchariad.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Kamen, Henry. (1997). Philip of Spain. Mazal Holocaust Collection. New Haven [Conn.]: Yale University Press. ISBN 0-300-07081-0. OCLC 36104018. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw ":0" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  2. Marshall, Peter H., 1946- (2006). The magic circle of Rudolf II : alchemy and astrology in Renaissance Prague. New York: Walker & Co. ISBN 978-0-8027-1551-7. OCLC 71046523.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. Theodorou, Konstantinos; Couvet, Denis (2006-07). "On the expected relationship between inbreeding, fitness, and extinction". Genetics, selection, evolution: GSE 38 (4): 371–387. doi:10.1186/1297-9686-38-4-371. ISSN 0999-193X. PMC 2689291. PMID 16790228. https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/16790228.
  4. Marshall, Peter H., 1946- (2006). The magic circle of Rudolf II : alchemy and astrology in Renaissance Prague. New York: Walker & Co. ISBN 978-0-8027-1551-7. OCLC 71046523.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  5. Sánchez-Molero, José Luis Gonzalo. "Lectura y bibliofilia en el príncipe don Carlos (1545-1568), o la alucinada búsqueda de la ‘sabiduría’" (yn en). La memoria de los libros : estudios sobre la historia del escrito y de la lectura en Europa y América. https://www.academia.edu/35240884/Lectura_y_bibliofilia_en_el_pr%C3%ADncipe_don_Carlos_1545_1568_o_la_alucinada_b%C3%BAsqueda_de_la_sabidur%C3%ADa_.
  6. Martínez-Lage, Juan F.; Piqueras-Pérez, Claudio (2015-07). "Brief account on the head injury of a noble youngster in the sixteenth century (Prince Don Carlos, heir to Philip II of Spain, 1545-1568)". Child's Nervous System: ChNS: Official Journal of the International Society for Pediatric Neurosurgery 31 (7): 1005–1008. doi:10.1007/s00381-015-2693-7. ISSN 1433-0350. PMID 25837577. https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/25837577.
  7. Relación del doctor Dionisio Daza Chacón sobre la herida de cabeza del príncipe Carlos; CODOIN, vol.XVIII, pags. 537–563
  8. Parker, Geoffrey, 1943- (2002). Philip II (arg. 4th ed). Chicago: Open Court. ISBN 0-8126-9519-4. OCLC 50697759.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 9.5 9.6 Parker, Geoffrey (2002). Philip II. Open Court, pp. 92–93, 101. 4ª edición. ISBN 978-0-8126-9519-9.