Valladolid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Valladolid.

Mae Valladolid yn ddinas yng ngogledd-orllewin Sbaen, sy'n brifddinas cymuned ymreolaethol Castilla y León a thalaith Valladolid. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 319,943.

Sefydlwyd y ddinas yn y 12fed ganrif, a daeth yn brifddinas Teyrnas Castilla ac yna rhwng 1601 a 1606 yn brifddinas Sbaen. Yn 1346 rhoddodd y Pab Clement VI awdurdod i greu Prifysgol Valladolid. Yn 1561 dinistriwyd rhan helaeth o'r ddinas gan dân, ac fe'i hail-adeiladwyd gan y brenin Philip II. Symudwyd y llys brenhinol i Madrid, yna yn ôl i Valladolid am gyfnod, ond wedyn yn 1606 i Madrid eto, yn barhaol y tro hwn. Yn ystod y rhyfeloedd Napoleonaidd, Valladolid oedd y ddinas a ddewisodd y Ffrancwyr fel pencadlys i'w milwyr. Ar 31 Mai 1808 cododd y trigolion mewn gwrthryfel yn eu herbyn. Llwyddodd y Ffrancwyr i'w gorchfygu wedi ymladd ffyrnig, ac ni ryddhawyd y ddinad hyd 1812 pan gipiwyd hi gan fyddin dan arweiniad Dug Wellington.

Yn Valladolid y bu farw Christopher Columbus yn 1506, a'i gladdu yno ym mynachlog Sant Ffransis, er i'w gorff gael ei sumud wedyn. Yma y ganed Juan de Torquemada yn 1388 a Philip II, brenin Sbaen, yn 1527, ac yma yr oedd Miguel de Cervantes yn byw pan gyhoeddodd Don Quixote yn 1605.

Afon Pisuerga yn llifo trwy'r ddinas.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]