Wiliam I, Tywysog Orange

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun Wiliam I yn Den Haag.

Tywysog Orange ac arweinydd gwrthryfel yr Iseldiroedd yn erbyn Sbaen yn yr 16eg ganrif oedd Wiliam I, Tywysog Orange, a adwaenir hefyd fel Wiliam y Tawedog (Iseldireg: Willem de Zwijger) neu fel Wiliam o Orange (Iseldireg: Willem van Oranje) (24 Ebrill 153310 Gorffennaf 1584).

Roedd Wiliam yn wreiddiol yn gweithredu fel stadhouder dros frenin Sbaen yn yr Iseldiroedd. Ar 31 Rhagfyr 1564, traddododd araith enwog, a daeth yn arweinydd gwrthryfel yn erbyn Felipe II, brenin Sbaen. Sbardunodd hyn ryfel a barhaodd am 80 mlynedd, ac a arweiniodd at annibyniaeth yr Iseldiroedd.

Ar 10 Gorffennaf 1584, saethwyd ef yn farw yn Delft gan Ffrancwr o'r enw Balthasar Gerards pan oedd yn bwyta cinio gyda Rombertus van Uylenburgh, maer Delft a thad Saskia Uylenburgh, gwraig gyntaf yr arlunydd Rembrandt van Rijn. Ystyrir ef yn un o brif arwyr cenedlaethol yr Iseldiroedd.