Tywysog Orange

Oddi ar Wicipedia
Tywysog Orange
Enghraifft o'r canlynolteitl bonheddig, teitl dynastig Edit this on Wikidata
Mathetifedd eglur Edit this on Wikidata
Rhan oTywysogaeth Orange Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Teitl brenhinol oedd yn wreiddiol yn deitl rheolwr Tywysogaeth Orange, yn awr yn rhan o dde Ffrainc yw Tywysog Orange (Iseldireg: Prins van Oranje).

Yn 1544, daeth Tywysogaeth Orange i feddiant Wiliam o Orange a brenhinllin Orange-Nassau. Trwyddynt hwy, daeth yn deitl a ddefnyddir gan deulu brenhinol yr Iseldiroedd. Yn awr, mae'n perthyn i etifedd gwrywol i orsedd yr Iseldiroedd; y deilydd presennol yw'r Tywysog Willem-Alexander.

Roedd Wiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban yn wreiddiol yn Dywysog Orange. Daeth ef yn arwr Protestaniaid Gogledd Iwerddon yn dilyn ei fuddugoliaeth ym Mrwydr y Boyne, ac oherwydd hyn y cafodd y Sefydliad Orange yng Ngogledd Iwerddon ei enw. Er nad oes cysylltiad uniongyrchol a'r lliw oren, daeth y lliw yma i gynrychioli yr Iseldiroedd ac unoliaethwyr Gogledd Iwerddon.