Harri II, brenin Ffrainc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brenin Ffrainc o 1547 hyd 1559 oedd Harri II (Ffrangeg: Henri II) (31 Mawrth, 1519 - 10 Gorffennaf, 1559).

Cafodd ei eni yng nghastell Saint-Germain-en-Laye, Ffrainc, yn fab i Ffransis I, brenin Ffrainc a Claude de France. Yn ddyn ifanc syrthiodd mewn cariad â Diane de Poitiers, Duges Valentinois, a bu dan ei dylanwad am weddill ei oes. Ef oedd yr olaf i fod yn Ddug Llydaw heb fod yn Frenin Ffrainc (daeth yn Ddug Llydaw ar ôl marw ei frawd, ac yn frenin ar ôl marw ei dad).

Ar 28 Hydref 1533, priododd â Catrin de Medici (13 Ebrill 1519 - 5 Ionawr 1589).

Plant[golygu]

  1. Ffransis II, brenin Ffrainc (19 Ionawr 1544 - 5 Rhagfyr 1560)
  2. Elisabeth o Valois (2 Ebrill 1545 - 3 Hydref 1568) gwraig Felipe II, brenin Sbaen
  3. Claude (12 Tachwedd 1547 - 21 Chwefror 1575) gwraig Siarl II, Dug Lorraine
  4. Louis (3 Chwefror, 1549 - Hydref, 1549)
  5. Charles-Maximilien (Siarl IX, brenin Ffrainc) (27 Mehefin 1550 - 30 Mai 1574)
  6. Edouard Alexandre (Harri III, brenin Ffrainc) (19 Medi 1551 - 2 Awst 1589)
  7. Marguerite de Valois (14 Mai 1553 - 27 Mawrth 1615)
  8. François, Dug Anjou, (18 Mawrth 1555 - 19 Mehefin 1584)
  9. Jeanne (24 Mehefin 1556 - 24 Mehefin 1556)
  10. Victoire (24 Mehefin 1556 - Awst 1556)
Rhagflaenydd:
Ffransis, 15fed Dauphin
Dug Llydaw
10 Awst 153631 Mawrth 1547
Olynydd:
Merged in crown
Rhagflaenydd:
Ffransis I
Brenin Ffrainc
31 Mawrth 154710 Gorffennaf 1559
Olynydd:
Ffransis II
Baner FfraincEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.