Robert Ferrar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Esgob Tyddewi rhwng 1548 a'i losgi wrth y stanc ym 1555 oedd Robert Ferrar (tua 150430 Mawrth 1555). Ganed yn Halifax, Swydd Efrog rywbryd rhwng 1502 a 1505.

Dechreuodd ei yrfa eglwysig ystormus fel Esgob Sodor a Manaw. Yn bleidiwr brwd y Diwygiad Protestannaidd, fe'i penodwyd yn Esgob Tyddewi o dan Edward VI o Loegr ar 9 Medi 1548 diolch i ddylanwad ei noddwyr Thomas Cranmer, Archesgob Caergaint, a Dug Somerset. Fe'i carcharwyd yn ddiweddarach gan Edward VI ar ôl ymrafael rhyngddo a chanoniaid Tyddewi.

Cafodd ei gyhuddo o ddangos gormod o gariad tuag y Cymry, ac yn benodol o danseilio'r Deddfau Uno a waharddai ddefnyddio'r iaith Gymraeg gan unrhyw swyddog o dan Goron Lloegr. Yn ôl ei gyhuddwyr, roedd Ferrar wedi datgan,

"The Welsh are more gentle (na'r Saeson) and not without cause, for ye were the Britons sometime and had the realm in governance, and, if the prophesy be true, ye shall be Britons again and this land shall be called Great Britain.[1]

Ac yntau'n dal yn y carchar, fe'i cyhuddwyd o heresi gan Mari Tudur, ac, ar ôl gwrthod datgyffesu, fe'i llosgwyd wrth y stanc ar sgwâr y farchnad yng Nghaerfyrddin ar 30 Mawrth 1555. Fe'i olynwyd fel Esgob Tyddewi gan Henry Morgan, gŵr o Sir Benfro, un o'r rhai a gondemniodd Ferrar yn y lle cyntaf.

Ceir carreg goffa i Robert Ferrar, a godwyd yn 1843, ar sgwâr Caerfyrddin. Cynhwysodd y bardd Saesneg Ted Hughes gerdd amdano yn ei gyfrol The hawk in the rain.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dyfynwyd gan Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (Llandybie, 1955; arg newydd 1970), tt. 125-6.

Gweler hefyd[golygu]