Ted Hughes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ted Hughes

Awdur a bardd oedolion a phlant Seisnig oedd Edward James Hughes (Ted Hughes) OM (17 Awst 193028 Hydref 1998). Adnabyddir gan feirniaid llenyddol fel un o lenorion gorau ei oes.[1] Roedd Ted Hughes yn Fardd Laureate Prydeinig o 1984 tan ei farwolaeth.

Priododd bardd Americanaidd Sylvia Plath yn 1956, ond fe hunanladdodd hi yn 1963 yn 30 oed. Daeth ei ran y berthynas yn ddadleuol, yn ranol oherwydd rhai ffeminyddion ac yn arbennig, edmygwyr Amercanaidd Plath, a aeth mor bell hyd yn oed ai gyhuddo o lofruddiaeth.[2] Ni gymerodd Ted Hughes ei hun, ran yn y dadleuon yn gyhoeddus, ond mi archwiliodd Birthday Letters (1998), eu perthynas cymleth, ac i nifer, rhoddwyd ef mewn golau gwell oi herwydd.[3]

Prteadwyd ef yn 2003 gan yr actor Daniel Craig yn y ffilm Sylvia, ffilm bywgraffiadol o Sylvia Plath.

Dyddiau Cynnar[golygu]

Ganed Ted Hughes ar 17 Awst, 1930 yn rhif 1, Aspinal Street, yn Mytholmroyd, Gorllewin Sir Efrog a magwyd ef ymysg ffermydd yr ardal. Yn ôl Hughes, siapiodd hyn popeth iddo ("My first six years shaped everything").[4] Yn saith oed, symudodd ei deulu i Mexborough, De Sir Efrog, lle rhedont siop paburau newydd newsagents. Roedd ganddo frawd, Gerald, a oedd ddeng mlynedd yn hŷn, yn ogystal a chwaer, Olwyn, a oedd dwy flynedd yn hŷn.

Bywyd Personol[golygu]

Astudiodd Hughes Saesneg, anthropoleg ac archaeoleg yng Ngoleg Penfro, Caergrawnt. Ar yr un adeg, ymddangosodd ei farddoniaeth mewn cylchlythyr, St. Botolph's Review, ynghyd a gwaith cyd-fyfyrwyr, ac mewn parti i lawnsio'r cylchgrawn cyfarodd â Sylvia Plath. Priodasont 16 Mehefin 1956, dim ond pedair mis ar ôl cyfarfod.

Blwyddyn yn ddiweddarach, symudodd y cwpl i orllewin Massachusetts yn yr Unol Daleithau. Gweithiant fel llenorion gwadd ym Mhrifysgol Massachusetts Amherst ac yng Ngholeg Smith. Wedi gwario cynod yn Boston, dychwelant i Loegr yn mis Hydref 1959, gan symyd yn gyntaf i Lundain, ac yna i Dyfnaint yn 1961 (Court Green, North Tawton).

Cawsont ddau o blant ond gahanont yn hydref 1962. Cariodd Ted ymlaen i fyw yn Court Green, gyda'i garwr Assia Wevill, ar ôl marwolaeth Plath ar 11 Chwefror 1963, ond yn y diwedd collodd y berthynas ei sglein iddo, a daeth i ymwneud a merched eraill. Fel gweddw Plath, daeth Hughes yn ysgutor ei hystadau llnyddiaeth a phersonol. Gorychwyliodd gyhoeddiad ei llawysgrifau, gan gynnwys Ariel (1966). Hawliodd hefyd ei fod wedi dinistrio pennod olaf dyddiadur Plath, a ddisgrifiai eu misoedd olaf gyda'i gilydd. Yn ei ragair i The Journals of Sylvia Plath, mae'n amddiffyn hyn fel ystyriaeth i'w plant ifanc.

Chwe mlynedd ar ôl hunanladdiad Plath gan ddefnyddio stôf nwy, ar 25 Mawrth 1969, lladdodd Assia Wevill ei hun a Shura (ei merch gan Hughes yn bedair oed), yn yr un modd; ganed Alexandra Tatiana Elise, (Shura), 3 Mawrth 1965.

Yn Awst 1970, Priododd Hughes unwaith eto, i nyrs o'r enw Carol Orchard. Arhosant gyda'i gilydd (er gwaethaf sawl carwriaeth ar ei ran ef drost y blynyddoedd), hyd ei farwolaeth. Derbynodd Order of Merit gan y Frenhines Elisabeth II ychydig cyn ei farwolaeth.

Daliodd Ted Hughes i fyw yn ei dŷ yn Nyfnaint, hyd ei farwolaeth o drawiad i'r galon ar 28 Hydref 1998, tra'n cael triniaeth yn erbyn cancr y colon. Cynhaliwyd ei angladd yng nghapel Gogledd Tawton, ac amlosgwyd ef yng Nghaerwysg. Gwasgarwyd ei ludw ar Dartmoor, yn agos at Cranmere Pool (gyda chaniatâd brenhinol).

Yn siarad yn angladd Ted Hughed yn Gogledd Tawton 3 Tachwedd 1998, dywedodd Seamus Heaney:

"No death outside my immediate family has left me feeling more bereft. No death in my lifetime has hurt poets more. He was a tower of tenderness and strength, a great arch under which the least of poetry's children could enter and feel secure. His creative powers were, as Shakespeare said, still crescent. By his death, the veil of poetry is rent and the walls of learning broken." [5]

Mae llwybr coffa ym mhentref Belstone yn arwain at garreg goffa ger yr Afon Taw a roddwyd yno yn 2005 ar dir sy'n berchen i Ddugiaeth Cernyw[6]. Mae'r cofeb granite rhywfaint yn ddadleuol yn lleol; yn ôl rhai ffynonellau, cariwyd yno drwy'r awyr gan ddefnyddio hofrennydd y Tywysog Siarl, anrhydedd na'i dderbynwyd gan unrhyw berson arall o Ddyfnaint.[7]

Ysgrifennu[golygu]

Seilwyd gwaith cynnar Hughes ar natur, yn arbennig, anwaraiaid diniwed anifeiliaid (bron y gallai geiriad Tennyson "nature, red in tooth and claw" fod wedi ei sgwennu yn arbennig ar gyfer Hughes). Mae ei waith diweddarach yn dibynnu ar fytholeg a thraddodiad barddonol, wedi ei dreiglo'n drwm gan farn modernwr, dirfodol a sarhaus. Denodd ei gasgliad cyntaf, Hawk in the Rain (1957) feirniadaeth canmolig. Enillodd wobr Galbraith yn 1959 a ddaeth ynghyd â $5000. Ei waith pwysicaf efallai, oedd Crow (1970), mae wedi ei ganmol ond ar yr un adeg mae wedi hollti barn, gan gyfuno barn datguddiadol, hallt, sinigaidd a afreal o fydysawd, a welir yn syml ond gyda'r olwg weithiau o benillion wedi eu cyfansoddi'n wael. Mae Tales from Ovid (1997) yn cynnwys dweisiad o gyfieithiad penillion rhydd Metamorphoses gan Ofydd. Yn y gyfrol Birthday Letters, torodd Ted Hughes ei dawelch ynglyn â Sylvia Plath, gan ddisgrifio elfennau o'u bywyd â'u gilydd a'i ymddwyn ef ar y pryd. Arlunwyd y clawr gan eu march Frieda.

Yn ogystal a barddoniaeth ysgrifennodd Hughes sawl opera libretto a llyfrau plant clasurol. Un o'r rhain yw, The Iron Man, a gafodd ei ysgrifennu i gysuro eu plant wedi hunanlofruddiaeth Sylvia Plath. Daeth yn sail ar gyfer opera roc Pete Townshend gyda'r un enw, a'r ffilm wedi'i animeiddio The Iron Giant. Gwnaethwyd Hughes yn Fardd Laureate yn 1984 wedi marwolaeth John Betjeman. Darganfyddwyd yn hwyrach, mai ail-ddewis oedd Hughes, y tu ôl i Philip Larkin, a drodd yr anrhydedd i lawr oherwydd salwch a writer's block. Cadwodd Hughes y fraint hyd ei farwolaeth yn 1998. Ymddangosodd ei waith ddiffiniol 1333 tudalen Collected Poems (Faber & Faber) yn 2003.

Llyfryddiaeth[golygu]

Barddoniaeth[golygu]

  • 1957The Hawk in the Rain
  • 1960Lupercal
  • 1967Wodwo
  • 1967Recklings
  • 1970Crow
  • 1977Gaudete
  • 1979Moortown Diary
  • 1979Remains of Elmet (gyda ffotograffau gan Fay Godwin)
  • 1983River
  • 1986Flowers and Insects
  • 1989Wolfwatching
  • 1992Rain-charm for the Duchy
  • 1994New Selected Poems 1957-1994
  • 1997Tales from Ovid
  • 1998Birthday Letters — enillydd Forward Poetry Prize 1998 ar gyfer y casgliad orau a gwobr British Book of the Year 1999.
  • 2003Collected Poems

Blodeugerddi a olygwyd gan Ted Hughes[golygu]

Rhyddiaith[golygu]

  • A Dancer to God
  • Shakespeare and the Goddess of Complete Being
  • Winter Pollen: Occasional Prose
  • Difficulties of a Bridegroom
  • Poetry in the Making

Llyfrau Plant[golygu]

  • How the Whale Became
  • Meet my Folks!
  • The Earth Owl and Other Moon-people
  • Nessie the Mannerless Monster
  • The Coming of the Kings
  • The Iron Man
  • Moon Whales
  • Season Songs
  • Under the North Star
  • Ffangs the Vampire Bat and the Kiss of Truth
  • Tales of the Early World
  • The Iron Woman
  • The Dreamfighter and Other Creation Tales
  • Collected Animal Poems: Vol. 1-4
  • The Mermaid's Purse
  • The Cat and the Cuckoo

Cyfansoddiadau â geiriau gan Ted Hughes[golygu]

  • Paul Crabtree: Songs at Year's End. Vier Gesänge nach Gedichten von Ted Hughes. ar gyfer côr gymysg pump rhan gyda cappella. Berlin 2006. (There came a Day; The Seven Sorrows; Snow and Snow; The Warm and the Cold) [1]

Cyfeirnodau[golygu]

  1. Daily Telegraph, Ebrill 2004 - Adolygiad Philip Hensher o Collected Works of Ted Hughes, ymysg eraill
  2. Ted Hughes: A Talented Murderer: Newyddiadurwr y Guardian, Nadeem Azam, yn ysgrifennu ar wefan 1Lit.com, 2006
  3. Middlebrook, D. Her Husband: Ted Hughes and Sylvia Plath, A Marriage. Llundain, Penguin: 2003.
  4. Teitl: Ted Hughes: Timeline Dyddiad Cyrchu:22 Awst 2006
  5. Centre for Ted Hughes Studies - Ted Hughes timeline
  6. BBC Dyfnaint - Llwybr Ted Hughes
  7. BBC Dyfnaint - Cofeb Ted Hughes

Dolenni Allanol[golygu]