Ofydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Publius Ovidius Naso: Llun toriad pren canoloesol lliwiedig, o Gronicl Nüremburg (Liber Chronicarum)

Roedd Publius Ovidius Naso, neu Ofydd (43 CC17 OC), yn fardd Lladin ac awdur Rhufeinig. Ysgrifennodd yn bennaf am serch a mytholeg glasurol.

Ei gampwaith yw'r Metamorphoses ('Trawsffurfiadau'), sef cerdd 15 llyfr o hyd yn adrodd hanes y byd fel cyfres o gyfnewidiadau. Rhai o'r hanesion enwocaf yw hwnnw am y duw Apollo yn troi ei gariad Daphne yn lawryfen a'r un am Narcissus yn cael ei droi'n flodyn (y cenhinen bedr) ar ôl syllu ar ei adlewyrchiad yn y dŵr am gyfnod hir.

Drwy'r Canol Oesoedd a'r Dadeni Dysg dyma oedd y gwaith llenyddol mwyaf poblogaidd yn yr iaith Ladin ac mae wedi gadael ôl sylweddol ar lenyddiaeth y Gorllewin, o William Shakespeare (roedd hanes trasig y cariadon Pyramus a Thisbe yn ysbrydoliaeth ar gyfer Romeo and Juliet) i Saunders Lewis (a ysgrifennodd gyfieithiad farddonol o'r un stori, Puraf a Thisbe).

Gweithiau gan Ofydd sydd wedi goroesi[golygu]

  • (10 CC) Amores
  • (5 CC) Heroides neu Epistulae Heroidum
  • (5 CC) Remedium Amoris
  • (5 CC) Medicamina Faciei Femineae
  • (2 CC) Ars Amatoria
  • (8 OC) Metamorphoses
  • (9 OC) Ibis
  • (10 OC) Tristia
  • (10 OC) Epistulae ex Ponto
  • (12 OC) Fasti