William Shakespeare

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Portread Chandos, mwy na thebyg yr unig bortread peintiedig cyfoes o Shakespeare. Priodilir y peintiad i John Taylor.
Tudalen deitl y llyfr unplyg cyntaf o ddramâu Shakespeare, gyda phortread wedi'i ysgythru gan Martin Droeshout.

Bardd a dramodydd Saesneg oedd William Shakespeare (tua 23 Ebrill 156423 Ebrill 1616), a anwyd yn Stratford-upon-Avon.

Nid oes tystiolaeth i brofi pa ysgol fynychodd Shakespeare, ond gwyddys ei fod wedi mynd i King Edward VI Grammar School lle byddai wedi dysgu'r rhan fwyaf o'r technegau sydd eu hangen i ysgrifennu.

Fe briododd Shakespeare Anne Hathway, o Stratford, pan nad oedd ef ond yn 18 mlwydd oed. Does dim llawer o hanes i gael am William Shakespeare yn ystod y 1580au, felly cyfeirir at y cyfnod hwnnw fel "y blynyddoedd coll".

Erbyn 1592 roedd Shakespeare yn wyneb cyfarwydd mewn cylchoedd llenyddol. Roedd yn un o berchenogion cwmni drama'r Lord Chamberlain's Men yn 1594 (newidiwyd yr enw i The King's Men ar ôl coroni Iago I). Cyfansoddodd 38 drama. Bu farw Shakespeare yn 52 oed. Cafodd dri o blant, Hamnet, Judith a Susannah.

Ei weithiau[golygu]

Dramâu[golygu]

Barddoniaeth[golygu]