Apollo
Oddi ar Wicipedia
| Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a thynnir o ganlyniad. (Ionawr 2010) |
Mae'r erthygl hon yn trafod y duw Groegaidd Apollo. Am raglen ofod Americanaidd o'r un enw, gweler Rhaglen Apollo.
Roedd Apollo (Groeg Ἀπόλλων, Lladin Apollo) yn dduw Groegaidd a Rhufeinig. Ym mytholeg Groeg roedd yn dduw goleuni a'r gwanwyn, proffwydoliaeth a'r celfyddydau, yn enwedig barddoniaeth a cherddoriaeth. Roedd Oracl Apollo yn Delphi yn cael ei ystyried yn oracl pwysicaf yr hen fyd. Roedd yn un o ddeuddeg duw pwysicaf y pantheon Groegaidd.
Roedd yn fab i Zeus a Leto, ac yn efaill i'r dduwies Artemis. Dywedir iddo gael ei eni ar ynys Delos.
Yn ôl gwahanol ffynonellau, cariadon Apollo a'i blant gyda hwy oedd:
- Akantha
- Arsinoe
- Chione
- Daphne
- Dryope
- Hekuba
- Kalliope
- Kassandra
- Koronis
- Leukothea
- Manto
- Psamathe
- Rhoeo
- Terpsichore
- Urania
[golygu] Ffynonellau
- Aelian, Varia Historia
- Apollodorus I und III. Llyfr
- Diodorus Siculus III. Llyfr
- Homerischer Hymnus an Apollon
- Homer, Iliad
- Hyginus Mythographus, Chwedlau