Diodorus Siculus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Diodorus Siculus (Groeg Διόδωρος Σικελιώτης), c. 90 CC - ca. 30 CC, yn hanesydd Groegaidd a aned yn Agyrium (Agira heddiw) yn Sicilia.

Nid oes sicrwydd am ei ddyddiadau, ond mae'n crybwyll ei fod wedi ymweld â'r Aifft yn ystod y 180fed Olympiad, rhwng 60 a 56 CC). Tra'r oedd yno, gwelodd dyrfa o Eifftiaid yn dymuno lladd dinesydd Rhufeinig oedd wedi lladd cath, anifail sanctaidd yn yr Aifft, ar ddamwain. Y digwyddiad olaf y mae'n ei grybwyll yw dial Octavianus ar ddinas Tauromenium am wrthod ei gynorthwyo, tua 36 CC (16.7). Dywed Diodorus ei fod wedi treulio deng mlynedd ar hugain yn paratoi ei hanes, ac wedi teithio trwy Ewrop ac Asia i gasglu deunydd. Mae rhai ysgolheigion modern yn amau hyn, gan ddweud ei fod yn gwneud camgymeriadau na fyddai rhywun oedd wedi bod yn y gwledydd y mae'n eu trafod yn ei wneud.

Mae hanes Diodorus, Bibliotheca historica ("Llyfrgell Hanesyddol"), yn cynnwys deugain llyfr, wedi eu rhannu yn dair rhan. Mae'r chwech llyfr cyntaf yn trafod hanes a diwylliant yr Aifft (llyfr I), Mesopotamia, India, Scythia, ac Arabia (II), Gogledd Affrica (III) a Groeg ac Ewrop (IV - VI). Yn yr ail adran (llyfrau VII - XVII), mae'n adrodd hanes y byd o Ryfel Caerdroea hyd farwolaeth Alecsander Fawr. Mae'r rhan olaf yn rhoi'r hanes o farwolaeth Alecsander hyd un ai 60 CC neu ddechrau rhyfel Iŵl Cesar yng Ngâl - mae'r rhan olaf ar goll. Credir iddo ddefnyddio gwaith nifer o haneswyr eraill: Hecataeus, Ctesias o Cnidus, Ephorus, Theopompus, Hieronymus o Cardia, Duris o Samos, Diyllus, Philistus, Timaeus, Polybius a Posidonius.

Dim ond rhannau o'r llyfr sydd wedi goroesi; y pum llyfr cyntaf a llyfrau 10 hyd 20. Ceir rhannau o'r gweddill yng ngwaith Photius a Constantine Porphyrogenitus.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Gerhard Wirth und Wilhelm Gessel (Hgg): Diodoros Griechische Weltgeschichte. Bibliothek der griechischen Literatur, Bde. 34-37, Stuttgart 1993.