Artemis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Artemis
Diana of Versailles, copi Rhufeinig o gerflun Groegaidd gan Leochares. (Amgueddfa Louvre)
Diana of Versailles, copi Rhufeinig o gerflun Groegaidd gan Leochares. (Amgueddfa Louvre)
Duwies y Helfa, Fforestydd a Bryniau, y Lleuad
Symbol Bwâu a Saethau
Rhieni Zeus a Leto
Siblingiaid Apollo
Cywerthydd Rhufeinig Diana


Un o'r duwdodau mwyaf parchu yn Hen Roeg oedd Artemis (Groeg: (enwol) Ἄρτεμις, (genidol) Ἀρτέμιδος). Ym mytholeg Roeg glasurol, disgrifiwyd Artemis fel arfer yn ferch Zeus a Leto, a merch efeilles Apollo. Hi oedd y dduwies Helenaidd y fforestydd a bryniau, geni plant, gwyryfdod, ffrwythlonder, yr helfa, a darluniwyd fel arfer yn heliwr yn cario bwa a saethau.[1] Roedd y carw a'r gypreswydden yn sanctaidd iddi hefyd. Yng nghyfnodau Helenaidd diweddarach, roedd hi hefyd yn cymryd y rôl hynafol o Eileithyia a helpu mewn geni plant.

Daeth Artemis yn ganfyddadwy â Selene yn hwyrach,[2] a Thitan-wraig a'r oedd yn dduwies Roegaidd y lleuad, weithiau a darluniwyd â lleuad gilgant uwchben ei phen. Roedd hi hefyd yn ganfyddadwy â'r dduwies Rufeinaidd Diana,[3] â'r dduwies Etrwsgaidd Artume, ac â'r dduwies Roeg neu Gariaidd Hecate.[4]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. "Y ddaear yw'i sffêr briodol, a'r darnau heb eu trin yn enwedig, fforestydd a bryniau, lle bo bwystfilod gwyllt yn doreithiog
    . . . ." Hammond a Scullard (golygwyr), The Oxford Classical Dictionary. (Oxford: Clarendon Press, 1970) 126.
  2. Hammond, Oxford Classical Dictionary, 970-971.
  3. Hammond, Oxford Classical Dictionary, 337-338.
  4. "Mae Artemis yn ganfyddadwy yn aml â duwiesau tramor sydd yn debyg iawn iddi." Hammond, Oxford Classical Dictionary, 127.

Ffynonellau [golygu]

Dolenni allanol [golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: