Duwies
Bod dwyfol benywaidd yw duwies. Gallai fod yn un o'r duwiau yn y crefyddau amldduwiol neu'n fod dwyfol goruchel y cyfeirir ati'n aml fel 'Y Dduwies Fawr' neu 'Y Fam Dduwies'.
Ymhlith y duwiesau enwocaf yn yr Henfyd y mae Athena, nawdd-dduwies dinas Athen, Anahita yn nhraddodiad Persia, ac Isis, chwaer a gwraig y duw Osiris.
Ceir duwiesau niferus yn Hindŵaeth, e.e. Kali, Parvati a Deva. Ceir nifer o dduwiesau yn nhraddodiad Bwdhaeth Mahayana yn ogystal, yn arbennig ym Mwdhaeth Tibet, e.e. Tara.
Cynnwys |
Prif dduwiesau'r Henfyd [golygu]
Yr Hen Aifft [golygu]
Mesopotamia [golygu]
Crefydd Groeg a Rhufain [golygu]
- Cyfrinau Eleusis
- Aphrodite (Gwener)
- Artemis (Diana)
- Athena (Minerva)
- Cybele
- Danae
- Demeter (Ceres)
- Gaia
- Hecate
- Hera (Juno)
- Iris
- Nemesis
- Nike
- Nyx (Nox)
- Persephone
Crefydd y Celtiaid [golygu]
- Abnoba
- Agrona
- Arianrhod
- Blodeuwedd
- Branwen
- Brigid
- Ceridwen
- Dea Matrona
- Dôn
- Epona
- Mórrígan
- Rhiannon
- Sulis
- Verbeia
Crefydd y Llychlynwyr [golygu]
Crefyddau cyfoes [golygu]
Hindŵaeth [golygu]
Devi (neu Mahadevi, 'Y Dduwies Fawr') yw duwies oruchel Hindŵaeth. Gellid dadlau fod pob un o'r duwiesau eraill yn agweddau arni hi. Mae pob duwies yn gymar i un o'r duwiau. Yn ogystal â'r duwiesau mawr a nodir isod, ceir nifer o dduwiesau llai, weithiau'n agweddau ar un o'r duwiesau mwy, weithiau'n dduwiesau brodorol lleol a gawsant eu cymathu â Hindŵaeth.