Poseidon
Oddi ar Wicipedia
| Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a thynnir o ganlyniad. Mae'r tag yma yn rhoi'r erthygl yma yn y categori Categori:Dim-ffynonellau. (Ionawr 2010) |
Poseidon, cerfun yn ninas Copenhagen.
Duw'r môr ym Mytholeg Roeg oedd Poseidon (Ποσειδῶν), yn cyfateb i Neptūnus (Neifion) ym mytholeg Rhufain. Roedd hefyd yn dduw ceffylau a daeargrynfeydd.
Roedd yn fab i Cronus a Rhea ac yn frawd i Zeus a Hades, ac roedd ganddo blant niferus; ei wraig oedd Amphitrite. Wedi'r rhyfel rhwng y duwiau a'r Titaniaid, rhannodd y tri brawd y ddaear rhyngddynt; yr awyr i Zeus, y môr i Poseidon a'r isfyd i Hades. Roedd yn brif dduw nifer o ddinasoedd Groegaidd, yn cynnwys Corinth, er iddo golli cystadleuaeth ag Athena i benderfynu pwy fyddai prif dduw Athen.