Hades (duw)

Oddi ar Wicipedia
Hades a Persephone; llun o gerflun yn y Fatican

Duw'r isfyd ym Mytholeg Roeg oedd Hades (ᾍδης neu Άΐδης, Aidēs). Gelwid ef hefyd yn Plwton (Hen Roeg: Πλούτων Ploutōn). Cafodd trigfa'r meirwon yn yr isfyd yr enw Hades ar ei ôl ef.

Roedd yn fab i Cronus a Rhea ac yn frawd i Zeus a Poseidon. Wedi'r rhyfel rhwng y duwiau a'r Titaniaid, rhannodd y tri brawd y ddaear rhyngddynt; yr awyr i Zeus, y môr i Poseidon a'r isfyd i Hades.

Yn ôl un chwedl, cipiodd Hades Persephone, merch Demeter, duwies grawn a ffrwythlondeb, a mynd a hi i lawr i'r isfyd. Wedi Demeter golli ei merch, nid oedd dim yn tyfu ar y ddaear, a bu raid i Hades adael i Persephone ddychwelyd at ei mam. Fodd bynnag, cyn iddi adael, fe'i twyllodd i fwyta chwe hedyn pomgranad, ac o'r herwydd, roedd yn rhaid iddi ddychwelyd i Hades am chwe mis o bob blwyddyn. Yn ystod y chwe mis pan oedd Persephone gyda'i mam, roedd planhigion yn tyfu ar y ddaear; yn ystod y chwe mis pan nad oedd Hades yn dyfiant; felly y cafwyd y tymhorau. Roedd Dirgelion Eleusis, a gynhelid tua mis Hydref, yn gysylltiedig â'r chwedl hon.