Corinth

Oddi ar Wicipedia
Corinth
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth30,816 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Lugoj, Jagodina, Buccino, Siracusa, Abilene, Texas Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Corinth Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Arwynebedd102.2 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr10 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.9386°N 22.9272°E Edit this on Wikidata
Cod post20 131, 20 132 Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Corinth (gwahaniaethu)

Dinas hynafol a phorthladd pwysig yn ne canolbarth Gwlad Groeg yw Corinth (Groeg: Korinthos). Fe'i lleolir yng nghornel gogledd-ddwyreiniol y Peloponnese ar Isthmws Corinth. Sefydlwyd y porthladd presennol i'r de o'r ddinas yn 1858 ger safle'r ddinas glasurol. Gerllaw mae Camlas Corinth sy'n cysylltu Gwlff Saronica a Gwlff Corinth. Corinth yw prifddinas rhanbarth Corinth.

Mae tystiolaeth archaeolegol yn dangos fod pobl yn byw ar safle Corinth ar ddechrau'r trydydd fileniwm CC. Datblygodd dinas hynafol Corinth fel canolfan masnach yn yr 8g CC. Tyfodd i fod y ddinas-wladwriaeth ail fwyaf ar dir mawr Groeg a'r cyfoethocaf ohonynt i gyd ar ôl Athen. Y ddinas honno oedd prif gystadleuydd Corinth a'i chynghreiriad Sparta am rym a dylanwad yn y byd Groegaidd ac arweiniodd hynny at y Rhyfel Peloponnesaidd (431-404 CC). Llwyddodd Corinth i wrthsefyll grym yr Ymerodraeth Rufeinig am gyfnod ond fe'i dinistriwyd gan y Rhufeiniaid yn 146 CC. Cafodd ei hailsefydlu fel trefedigaeth Rufeinig yn 44 CC. Blodeuodd eto fel canolfan masnach yn y cyfnod Rhufeinig ond yn ystod y cyfnod Bysantaidd crebychodd i fod yn dref fach ddigon di-nod.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Camlas Corinth
  • Eglwys gadeiriol
Teml Apollo yn hen ddinas Corinth

Enwogion[golygu | golygu cod]