Archaeoleg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Astudiaeth wyddonol o hanes a diwylliant dyn drwy ddatguddio a dadansoddi olion ffisegol yw archaeoleg. Gall yr olion fod yn bensaernïol, yn olion dynol, neu'r dirlun hyd yn oed. Nod yr archaeolegydd yw rhoi goleuni ar hanes ac ymddygiad dyn dros dymor hir. Gall anthropoleg fod o help i'r archaeolegwr hefyd. O'r 16eg ymlaen rhoddwyd gogwydd pur wyddonol ar waith yr achaeolegydd. Mae'r dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys dulliau dyddio radiometrig a charbon ddyddio yn dangos fod bywyd dynol wedi bodoli yng Nghymru ers dros chwarter miliwn o flynyddoedd. Mae'r gwaith diweddaraf ar genynnau'n dangos fod cysylltiad rhwng y pobl cynharaf a thrigolion presennol y wlad.

Dulliau archaeolegol[golygu]

Mae archaeolegydd yn cloddio safleoedd hanesyddol ac yn dehongli'r gorffennol oddi wrth beth a ddarganfyddir ganddynt wrth gloddio a dod o hyd i bethau fel crochenwaith a darnau arian.

Archaeoleg yng Nghymru[golygu]

Ymhlith y darganfyddiadau pwysicaf yng Nghymru mae Ogof Pen-y-fai (neu Paviland) a ddarganfuwyd yn 1823 gan William Buckland ac ogof Bont Newydd, Dyffryn Elwy a ddarganfuwyd yn yr 1860au gan Boyd Dawkins. Mae'r darganfyddiadau hyn yn dangos fod olion pobl o'r Hen Oes y Cerrig (neu'r Oes Paleolithig) yma sy'n mynd yn ôl mor bell a 24,000 o flynyddoedd yn achos Dyffryn Elwy a 29,000 yn achos y dyn ifanc 29 oed a gafwyd hyd iddo ym Mhen y Fai.

Yng Nghymru, ceir pedair Ymddiriedolaeth Archaeoleg:

Ceir hefyd corff a sefydlwyd yn 1908 sy'n cofnodi safleoedd fesul sir, sef y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.[1]

Archaeolegwyr enwog[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Darllen pellach[golygu]

  • C.W. Ceram, Gods, Graves and Scholars (Götter, Gräber und Gelehrte, Hamburg, 1949; cyfieithiad Saesneg 1951, Llundain; ail argraffiad diwygiedig, Llundain, 1967, a sawl argraffiad diweddarach). Arolwg da a darllenadwy o hanes archaeoleg.
  • Eric S. Wood, Collins Field Guide to Archaeology in Britain (Llundain, 1963; sawl argraffiad diweddarach)

Cyfeiriadau[golygu]