W. F. Grimes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Archaeolegydd o Gymru oedd yr Athro William Francis Grimes (31 Hydref, 190525 Rhagfyr, 1988), a gyhoeddai wrth yr enw W. F. Grimes. Ei brif feysydd oedd archaeoleg Llundain a chynhanes Cymru. Roedd yn frodor o Sir Benfro.

Cafodd ei addysg brifysgol ym Mhrifysgol Cymru. Bu'n Geidwad Cynorthwyol Adran Archaeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, o 1926 hyd 1938. Bu'n llywydd Cymdeithas Archaeolegol y Cambrian, cadeirydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru ac ymgymerodd hefyd a sawl post cyhoeddus arall ym maes archaeoleg.

Yn ystod y 1950au a'r 1960au cloddiodd sawl gwaith yn Llundain yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr Amgueddfa Llundain a'r Astudfa Archaeoleg, y sefydliad o fewn Prifysgol Llundain a sefydlwyd gan Syr Mortimer Wheeler yn 1937. Bu'n athro archaeoleg yno hyd ei ymddeol yn 1973.

Un o ddarganfyddiadau pwysicaf Grimes oedd Mithraeum Llundain yn 1954, teml Rufeinig yn gysegredig i'r duw Mithras. Enghraifft gynnar o archaeoleg achub oedd hyn, gan fod y safle, a fomiywd yn y rhyfel, yn cael ei datblygu.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu]

  • Grimes, W. F., The Megalithic Monuments of Wales (1936)
  • ——, The Prehistory of Wales (1951)
  • ——, 'Excavations in the City of London', yn Bruce-Mitford R.L.S. (gol.) Recent Archaeological Excavations in Britain (Llundain, 1956).