Mithras
Duw a addolid yn yr Ymerodraeth Rufeinig o'r ganrif gyntaf O.C. hyd y 4edd ganrif oedd Mithras. Ceir tystiolaeth o bresenoldeb crefydd neu gwlt Mithras o wahanol leoedd ar draws yr ymerodraeth, ac ymddengys ei bod yn arbennig o boblogaidd ymysg milwyr. Nid oes sicrwydd am ddechreuad y grefydd, ond ymddengys iddi gyrraedd yr ymerodraeth o'r dwyrain, efallai o Asia Leiaf. Parhaodd hyd nes i'r ymerawdwr Theodosius I wahardd pob crefydd heblaw Cristnogaeth yn 391.
Efallai i gwlt Mithras ddechrau yn Iran a'r ardaloedd cyfagos, lle ceir enw Mithras mewn cynghrair rhwng yr Hethiaid a Mitanni tua 1400 CC. Ceir cyfeiriad aro yn y Vedas yn India. Yn yr Avesta Iranaidd, mae'n dduwdod da, cyngheiriad Ahura Mazda, ac fe'i gelwir yn "farnwr yn enediau". Er hynny, nid oes sicrwydd fod y mithras yma yr un duwdod a'r Mithras a addolid yn y cwlt.
Roedd cwlt Mithras yn un o grefyddau y cyfrinachau, lle roedd aelodau newydd yn dod yn aelodau trwy seremonïau oedd yn dadlennu cyfrinachau'r grefydd iddynt. Addolid Mithras mewn temlau o'r enw Mithraeum. Ogofâu naturiol oedd y rhain ar y cychwyn, yna adeiladau oedd yn dynwared ogofâu. Nid oedd gan y grefydd ysgrythyrau. a rhaid dyfalu ei dysgeidiaeth o'r lluniau a cherfluniau sydd wedi eu cadw. Ymddengys i'r duw Mithras gael ei eni o graig gerllaw ffynnon santaidd. Lladdodd y tarw cyntefig mewn ogof.
Roedd saith gradd o aelodau o'r cwlt:
- Corax (Cigfran).
- Cryphius (κρύφιος) (cuddiedig).
- Miles (milwr).
- Leo (llew).
- Perses (Persiad)
- Heliodromus (negesydd yr haul).
- Pater (tad), y gradd uchaf.
Ceir un Mithraeum yng Nghymru, Mithraeum Caernarfon, gerllaw caer Rufeinig Segontium.