Cynhanes Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig
Oes Newydd y Cerrig
Cynhanes
Mesolithig
Oes Ganol y Cerrig
P     Paleolithig diweddar
Hen Oes y Cerrig
 
    Paleolithig canol
Hen Oes y Cerrig
    Paleolithig cynnar
Hen Oes y Cerrig
  Hen Oes y Cerrig
Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Mae cynhanes Cymru yn ymestyn o wawr Hen Oes y Cerrig i Oes yr Haearn a dyfodiad y Rhufeiniaid i'r wlad.

Hen Oes y Cerrig[golygu]

Ni wyddom i sicrwydd a fu pobl yn byw yng Nghymru yn y cyfnodau cynnes rhwng y gyfres o Oesoedd Iâ a gafwyd yn Ewrop gan fod y rhew wedi gorchuddio'r tir a dinistrio tystiolaeth bosibl ac eithrio yn achos rhimyn gul o dir ar arfordir y de. Ond mae'n bur bosibl fod ambell grŵp o bobl wedi croesi'r pont tir sych i hela ar y gwastadeddau gwelltog a adewid ar ôl y rhew yn y cyfnodau cynnes, efallai mor gynnar â 200,000-100,000 CC. Yn Ogof Pontnewydd yn nyffryn Afon Elwy yn Sir Ddinbych cafwyd hyd i ddannedd a darn o ên yn perthyn i ffurf gynnar o Ddyn Neanderthal oedd yn byw rhwng 230,000 a 180,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae ein gwybodaeth yn dibynnu ar dystiolaeth archaeolegol o'r ogofâu a breswylid gan bobl paleolithig. Daw'r darganfyddiadu cynharaf ar ddiwedd Oes yr Hen Gerrig o ogofâu calchfaen yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Gellir cymharu'r offer callestr o'r cyfnod hwnnw ag offer cyffelyb sy'n perthyn i ddiwylliant Aurignac (a elwir ar ôl ogofâu ger Aurignac, de Ffrainc).

Pentre Ifan, Sir Benfro.
Mamoth

Mae'r sgerbwd a ddarganfuwyd yn Ogof Paviland yn 1823 yn dyddio o tua 16,500 CC. Roedd diwylliant y grwpiau bychain o helwyr yng Nghymru yn perthyn i'r diwylliant paleolithig a elwir yn Greswelaidd ac a geir yn gyffredinol yn ne Prydain. Ychydig iawn o bobl fu'n byw yng Nghymru, efallai cyn lleied â rhai cannoedd ohonyn nhw, ac roeddent yn rhannu'r tir ag anifeiliaid gwyllt megis y mamothiaid diflanedig, eirth a cheirw anferth tebyg i'r elc yng ngogledd America. Yn ogystal â hela anifeiliaid roeddent yn hel llysiau a bwyd gwyllt arall. Does dim tystiolaeth ddibyniadwy am baentio ar furiau ogofâu.

Oes Ganol y Cerrig[golygu]

Meicrolith

Fel yn achos gweddill gogledd-orllewin Ewrop, roedd Oes Ganol y Cerrig neu'r Mesolithig, o tua 9000 CC hyd tua 4000 CC, yn gyfnod sy'n gorwedd rhwng diwedd yr olaf o Oesoedd yr Iâ yn Ewrop a dechrau amaethyddiaeth. Roedd pobl yn dal i fyw mewn grwpiau bychain o bobl, yn hela anifeiliaid gwyllt a hel bwydydd y môr, cnau a llysiau er mwyn cynnal eu hunain. Nodweddir eu diwylliant, sy'n perthyn i ddiwylliant Maglemosiaidd y cyfandir, gan yr arfer o wneud meicrolithiau (offer carreg bychain) a fyddai fel rheol yn cael eu gosod mewn handlau pren neu asgwrn neu ymhen gwaywffyn. Y ci oedd yr unig anifail domestig.

Yn y cyfnod hwn, roedd yr hinsawdd yn gwella'n araf a'r dymheredd yn codi. Byddai'r amgylchedd yn adlewyrchu hyn. Tyfai coedwigoedd a diflannodd y mamothau olaf. Daeth pobl drosodd o'r cyfandir fesul dipyn, gan groesi'r pont tir rhwng Prydain ac Ewrop lle ceir Môr Udd heddiw. Roedd yr arfordir yn uwch nag y mae heddiw ac yn cynnig safleoedd deniadol i bobl. Bu rhywfaint o ymsefydlu yn y bryniau hefyd ond roedd bywyd ar yr arfordir yn haws. Defnyddiai pobl eu hoffer meicrolith - a oedd ymhell o fod yn gyntefig - i hela anifeiliaid a physgod.

Ychydig iawn o olion pobl y cyfnod sydd wedi goroesi. Roedd eu trigfannau'n gysgodfeydd ac adeiladau pren ysgafn yn ôl pob tebyg, a byddent yn mudo'n aml i ddilyn preiddiau anifeiliaid neu hel bwydydd y môr yn ôl y tymor. Fel rheol dim ond drylliau bychain o gallestr wedi'u gwasgaru ar y llawr sydd i'w cael ond ceir olion mwy sylweddol mewn ambell ogof, e.e. Ogof Nana ar Ynys Bŷr oddi ar arfordir Sir Benfro.

Nid yw'n amhosibl fod rhai o'r traddodiadau a geir yn llên gwerin Cymru yn dyddio o'r cyfnod hwn, yn arbennig y chwedlau am diroedd boddiedig fel Cantre'r Gwaelod.

Oes Newydd y Cerrig[golygu]

Bryn Celli Ddu, bedd cyntedd o ddiwedd y cyfnod Neolithig

Nodweddir y cyfnod Neolithig yng Nghymru gan ddechrau ffermio. Credir fod hyn yn dyddio o tua 4000 CC, pan mae canlyniadau dadansoddiad paill yn awgrymu fod rhywfaint o glirio'r fforestydd wedi dechrau, proses a gyflymodd yn ystod y cyfnod.

Un o brif nodweddion y cyfnod yma yng Nghymru oedd adeiladu siamberi claddu. Mae'r domen o gerrig neu bridd oedd yn gorchuddio'r rhan fwyaf ohonynt bellach wedi diflannu, gan adael y meini mawr oedd yn ffurfio'r siambr ei hun, y cromlechi. Ceir tri prif fath o siamberi claddu yng Nghymru, y Beddrodau Hafren-Cotswold , yn bennaf yn y de-ddwyrain, y Beddau Porth, yn bennaf o gwmpas yr arfordir gorllewinol, a'r Beddau Cyntedd, sy'n arbennig o nodweddiadol o Ynys Môn ac sy'n debyg iawn i rai o siamberi claddu Neolithig enwog Iwerddon. Mae yna lawer o dystiolaeth o gysylltiad diwylliannol clos rhwng Cymru ac Iwerddon, yn enwedig yn y cyfnod Neolithig cynnar.

Mae olion aneddiadau yn brinnach, ond mae nifer gynyddol wedi eu darganfod yn y cyfnod diweddar. Yr enwocaf yw tai Clegyr Boia ger Tyddewi a'r tŷ yn Llandygai ger Bangor. Roedd nifer o "ffatrïoedd" yn Nghymru yn cynhyrchu bwyeill cerrig. Y mwyaf o'r rhain oedd Graig Lwyd ger Penmaenmawr; mae cynnyrch Graig Lwyd wedi ei ddarganfod cyn belled a Swydd Efrog a chanolbarth Lloegr.

Oes yr Efydd[golygu]

Clogyn yr Wyddgrug, yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig.


Dechreuodd Oes yr Efydd yng Nghymru tua 2500 CC., pan ymddangosodd eitemau metel am y tro cyntaf; copr yn gyntaf, yna efydd, sy'n gymysgedd o gopr ac ychydig o dun, llawer caletach na chopr ar ei ben ei hun. Y gred draddodiadol oedd fod pobl wahanol wedi mewnfudo, gan ddwyn y dechnoleg newydd gyda hwy a disodli'r trigolion blaenorol. Erbyn hyn, nid yw'r rhan fwyaf o archaeolegwyr yn credu fod hyn wedi digwydd ar raddfa fawr, ond yn hytrach fod y boblogaeth gynhenid wedi mabwysiadu'r dechnoleg newydd. Roedd y tywydd yn gynnar yn Oes yr Efydd tua 2100-1400 CC. yn gynhesach nag yw ar hyn o bryd, ac mae llawer o weddillion sefydliadau ar dir uchel sy'n awr yn fawnog anial.

Roedd nifer o fwyngloddiau yng Nghymru yn cynhyrchu copr ar gyfer gwneud efydd, yn arbennig mwynfeydd Pen y Gogarth ger Llandudno, lle roedd mwyngloddio ar raddfa fawr. Defnyddid y copr yma i gynhyrchu eitemau o efydd yn lleol. Enwyd arddull y rhain ar ôl y casgliad pwysicaf sydd wedi ei ddarganfod, ym Mharc Acton gerllaw Wrecsam. Datblygwyd y rhain, pennau bwyeill yn arbennig, tua diwedd cyfnod cynnar Oes yr Efydd, ac maent yn nodweddiadol o ran eu harddull. Caswant eu hallforio cyn belled a Llydaw a'r Almaen.

Gwelir gwahaniaeth yn arferion claddu yn Oes yr Efydd o'i gynharu a'r cyfnod Neolithig o'i flaen. Yn hytrach na chladdfeydd cymunedol mewn siamberi claddu, mae'r cyrff, neu'r gweddillion ar ôl amlosgi, yn cael eu claddu yn unigol mewn tomeni crynion gyda rhywfaint o grochenwaith neu eitemau eraill. Y patrwm cyffredin yng Nghymru erbyn tua 2000 CC. yw nifer o gladdedigaethal unigol mewn un domen; er enghraifft Bedd Branwen ar Ynys Môn. Un o'r darganfyddiadau mwyaf syfrdanol o Gymru yw'r clogyn aur a ddarganfuwyd mewn beddrod o'r enw Bryn yr Ellyllon, ger Yr Wyddgrug. Mae hwn yn dyddio o tua 1900-1600 CC., yn pwyso 560 gram ac wedi ei wneud o un darn o aur. Ychydig iawn o arfau sydd wedi eu darganfod mewn beddau yng Nghymru, ac nid oes arwydd fod amddiffynfeydd yn gwarchod sefydliadu o'r cyfnod, sy'n awgrymu cymdeithas heddychlon.

O tua 1250 CC. dirywiodd y tywydd, a daeth hyn yn amlycach o tua 1000 CC., gyda mwy o law a hafau oerach. Cynyddodd y broses o ffurfio mawn, ac mae'n debyg i lawer o sefydliadau ar yr ucheldiroedd gael eu gadael. Awgryma rhai ysgolheigion fod hyn wedi arwain at ymryson am dir, ac ymddangosiad y bryngeiri cyntaf tua 800 CC..

Tua diwedd Oes yr Efydd daw arfau yn fwy cyffredin. Ymddengys fod llawer o'r rhain wedi eu gwneud tu allan i Gymru, ond mae bwyeill a chelfi eraill o wneuthuriad lleol. Gellir gweld pedair arddull wahanol o'r celfi hyn; yn y gogledd-orllewin, gogledd-ddwyrain, de-ddwyrain a de-orllewin. Yn ddiddorol, mae hyn yn cyfateb yn fras i diriogaethau'r gwahanol lwythau a gofnodir yn ddiweddarach yn Oes yr Haearn, yr Ordoficiaid, Deceangli, Silwriaid a'r Demetae.

Oes yr Haearn[golygu]

Un o'r mynedfeydd i fryngaer Tre'r Ceiri, Gwynedd

Dechreuodd Oes yr Haearn yng Nghymru oddeutu 650 CC., dyddiad y celfi haearn cyntaf i'w darganfod yn Nghymru, yn Llyn Fawr ym mhen draw Cwm Rhondda, lle roedd nifer o eitemau wedi ei talu i'r llyn fel offrymau i'r duwiau. Efydd oedd y rhan fwyaf, ond roedd tri o haearn, cleddyf, pen gwaywffon a chryman. Credir fod y cleddyf wedi ei fewnforio, ond mae'r cryman o wneuthuriad lleol, ac yn efelychiad o fath lleol wedi ei wneud o efydd.

Yn o nodweddion y cyfnod yma oedd adeiladu nifer fawr o fryngeiri, er enghraifft Pen Dinas ger Aberystwyth a Tre'r Ceiri ar Benrhyn Llŷn. Y fryngaer gynharaf sy'n bendant yn dyddio o Oes yr Haearn, i bob golwg, yw Castell Odo, bryngaer fechan ger Aberdaron, Llŷn, sy'n dyddio i tua 400 CC.. Ceir y bryngeiri mwyaf yn y dwyrain, gyda rhai hefyd ar diroedd is y gogledd-orllewin. Yn y de-orllewin, mae bryngeiri yn niferus iawn ond yn llawer llai, y rhan fwyaf ag arwynebedd o lai na 1.2 hectar.

Un o'r darganfyddiadau pwysicaf o'r cyfnod oedd casgliad mawr o eitemau oedd wedi eu hoffrymu i'r duwiau yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn. Cafwyd hyd i'r rhain yn 1943 wrth baratoi tir ar gyfer adeiladu maes awyr newydd. Roedd y darganfyddiadau yn cynnwys arfau, tariannau, cerbydau a'u hoffer atodol, cadwyni ar gyfer caethweision ac eraill. Roedd llawer wedi eu torri neu eu plygu yn fwriadol. Ystyrir y rhain yn un o'r darganfyddiadau pwysicaf ym Mhrydain o waith metel Diwylliant La Tène. Mae crochenwaith, ar y llaw arall, yn brin yng Nghymru yn y cyfnod hwn, a'r rhan fwyaf ohono wedi ei fewnforio.

Yn draddodiadol, cysylltir diwylliant La Tène a'r Celtiaid, a'r farn gyffredinol hyd yn ddiweddar oedd fod ymddangosiad y diwylliant yma yn dangos mewnlifiad mawr o bobl newydd oedd yn siarad iaith Geltaidd, ac a ddisodlodd y boblogaeth oedd yno ynghynt. Y farn gyffredinol erbyn hyn yw na ddigwyddodd hyn ar raddfa fawr, ac mai'r diwylliant a newidiodd yn hytrach na'r bobl.

Diweddodd y cyfnod cynhanesyddol pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid, a ddechreuodd eu hymgyrchoedd yn erbyn y llwythau Cymreig gydag ymosodiad ar y Deceangli yn y gogledd-ddwyrain yn 48 OC.. Bu ymladd chwerw yn erbyn y Silwriaid a'r Ordoficiaid, ond erbyn tua 79 roedd y goncwest wedi ei chwblhau. Mae adroddiad yr hanesydd Rhufeinig Tacitus yn rhoi tipyn o wybodaeth am Gymru yn y cyfnod yma, er enghraifft fod Ynys Môn i bob golwg yn fan arbennig i'r Derwyddon. Efallai fod effaith y Rhufeiniaid ar y brodorion yn amrywio o un rhan o Gymru i'r llall; er enghraifft mae tystiolaeth fod rhai bryngeiri, megis Tre'r Ceiri, yn parhau i gael eu defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Steve Burrow (2006) Cromlechi Cymru: marwolaeth yng Nghymru 4000 - 3000 CC (Amgueddfa Cymru) ISBN 0 7200 05671
  • George Children a George Nash (1997) The anthropology of landscape: a guide to Neolithic sites in Cardiganshire, Carmarthenshire & Pembrokeshire (Logaston Press) ISBN 1-873827-99-7
  • I.Ll. Foster & Glyn Daniel (gol.) (1965) Prehistoric and early Wales (Routledge and Kegan Paul)
  • Frances Lynch (1970) Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwtr Môn)
  • Frances Lynch, Stephen Aldhouse-Green a Jeffrey L. Davies (2000) Prehistoric Wales (Sutton Publishing) ISBN 0-7509-2165-X


Cynhanes Cymru
Hen Oes y Cerrig | Oes Ganol y Cerrig | Oes Newydd y Cerrig | Oes yr Efydd | Oes yr Haearn