Gwernvale
Math | beddrod siambr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Crucywel |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.866676°N 3.147288°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | BR016 |
Siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig ym Mhowys yw Siambr Gladdu Gwernvale, a adwaenir hefyd fel Siambr Gladdu Crucywel. Saif o fewn ychydig lathenni i'r briffordd A40, gerllaw Crucywel.
Mae'r siambr gladdu o'r math Hafren-Cotswold, ond dim ond wyth o'r meini ochr sy'n weddill ohoni bellach. Yn ei ffurf wreiddiol, roedd ganddi flaengwrt ar ffurf cyrn ar yr ochr ddwyreiniol, gyda charreg borth ffug yma. Roedd y mynedfeydd gwirioneddol ar yr ochr ddeheuol, lle roedd dwy siambr, ac un ar yr ochr ogleddol, lle roedd un siambr.
Beddrodau Hafren-Cotswold yng Nghymru | ||
---|---|---|