Amgueddfa Brydeinig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adeilad yr Amgueddfa Brydeinig yn Bloomsbury, Llundain

Y mae'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain yn gartref i dros 13 miliwn o arteffactau o ddiwylliant a hanes dynol, ac felly yn un o'r casgliadau mwyaf sylweddol o'i bath ledled y byd. Sefydlwyd hi gan ddeddf Seneddol ym 1753, a chasgliad yn perthyn i'r meddyg Syr Hans Sloane (a fu farw y flwyddyn honno) a ffurfiodd gnewyllyn yr amgueddfa wreiddiol.

Lleolir yr amgueddfa ar hen safle plasdy'r teulu Montagu, mewn adeilad a gynlluniwyd yn yr arddull Roegaidd gan Syr Robert Smirke. Ychwanegodd ei frawd iau, Sydney Smirke, y llyfrgell crwn enwog a saif yng nghwrt canolog yr adeilad. Gorchuddiwyd y cwrt hwnnw â tho gwydr gan yr Arglwydd Norman Foster yn 2000.

BlankMap-LondonBoroughs.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.