Anifail

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Anifeiliaid
Dosbarthiad gwyddonol
Parth: Eukaryota
Teyrnas: Animalia
Linnaeus, 1758
Ffyla

Is-deyrnas Parazoa

Is-deyrnas Eumetazoa

Organebau organebau amlgellog, Ewcaryot, sy'n perthyn i'r deyrnas Animalia yw anifeiliaid. Fel arfer, gallant symud ac adweithio'n annibynol yn yr amgylchedd, bwyta ac ysgarthu. Gallan nhw ddim gwneud ffotosynthesis, ond gallant fwyta planhigion ac organebau eraill i gael egni. Yr astudiaeth o anifeiliaid yw sŵoleg.

Pan yn siarad yn gyffredinol am anifeiliaid, nid yw'n cynnwys bodau dynol yn aml, ond mewn gwirionedd mae dyn yn anifail, hefyd.[1]

Yn ystod y cyfnod Cambriaidd yr ymddangosodd y ffylwm anifail, a hynny oddeutu 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl; gwelwn hyn yn y dystiolaeth o ffosiliau o'r cyfnod. Rhennir y grwp 'anifeiliaid' yn isgrwpiau, gan gynnwys: adar, mamaliaid, amffibiaid, ymlusgiaid, pysgod a pryfaid.

Tarddiad y gair "animalia"[golygu]

Defnyddir y gair "animalia" gan y naturiaethwyr yn hytrach nag "anifail". Mae'r gair "animalia" yn dod o'r gair Lladin animalis, sy'n golygu "gydag anadl".[2] [3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Animals". Merriam-Webster's. http://m-w.com/dictionary/animals. Adalwyd 16 May 2010. "2 a : one of the lower animals as distinguished from human beings b : mammal; broadly : vertebrate" 
  2. Cresswell, Julia (2010). The Oxford Dictionary of Word Origins (2nd ed.). New York: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-954793-7. "having the breath of life', from anima 'air, breath, life." 
  3. "Animal". The American Heritage Dictionary (4th ed.). Houghton Mifflin Company. 2006. 
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am anifail
yn Wiciadur.