Gwasg Prifysgol Rhydychen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Oxford University Press)

Mae Gwasg Prifysgol Rhydychen (Saesneg: Oxford University Press; talfyriad arferol, OUP) yn un o brif gyhoeddwyr academaidd Lloegr ac un o'r gweisg mwyaf blaenllaw yn y byd academaidd. Mae'n un o adrannau Prifysgol Rhydychen ac yn cyhoeddi nifer o lyfrau safonol ar ystod eang o bynciau academaidd ynghyd â'r gyfres o glasuron llenyddiaeth, World Classics. Erbyn heddiw mae'r wasg wedi ymledu ymhell y tu hwnt i Loegr gyda changhennau pwysig mewn sawl gwlad ledled y byd, yn cynnwys yr Unol Daleithiau, Awstralia ac India, sy'n cyhoeddi eu llyfrau eu hunain a gyfer y gwledydd hynny.

Mae'r wasg yn cyhoeddi sawl cyfrol o ddiddordeb Cymreig, yn cynnwys y gyfrolau poblogaidd Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg a The Oxford Book of Welsh Verse in English.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.