Llaeth
Oddi ar Wicipedia
Babi yn sugno llaeth ei fam
Myn yn sugno llaeth ei fam
Mae mamalau yn cynhyrchu llefrith neu llaeth i fwydo eu rhai bach. Mae llaeth yn cynnwys llawer o faetholynnau sydd yn addas i anifeiliaid bach sydd ddim yn gallu treulio bwyd caled.
Mae llefrith pob rhywogaeth yn arbennig ac yn addas i'w anghenion. Er enghraifft mae llefrith merch yn cynnwys llawer o lactos, math o siwgr, ond does dim cymaint o siwgr ond llawr o brotein mewn llefrith buwch. Mae llaeth buwch yn cynnwys braster llaeth (3.5 %), soledau llefrith (8.5 %) a dŵr (88 %). Y protein pennaf yw casein.
Mae dyn yn defnyddio llefrith rhai anifeiliaid, yn bennaf llefrith buwch, gafr, ceffyl, dafad a byfflo dŵr, i wneud hufen, menyn, caws, iogwrt a hufen iâ.
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i: