Gafr
Oddi ar Wicipedia
| Geifr | ||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||
| Enw trienwol | ||||||||||||||||||
| Capra aegagrus hircus (Linnaeus, 1758) |
Mae geifr yn dod o Asia a dwyrain Ewrop yn wreiddiol. Megir geifr ers tua 10,000 o flynyddoedd am eu croen a'u cig a defnyddir llaeth gafr i wneud caws. Dofwyd geifr yn gynharach na gwartheg a defaid.
Yng Nghymru, hyd at y 16eg ganrif, mae'n bosib fod mwy o eifr nag o ddefaid a gwartheg. Gwnaed caws o'u llaeth a chŵyr o'u saim ac arferwyd sychu eu cig er mwyn ei gadw dros y gaeaf. Yn yr 1970au daeth yr afr yn ôl mewn ffasiwn gan dyddynwyr Cymru, oherwydd y diwydiant caws llwyddiannus a'r syniad o fod yn hunangynhaliol.
Yn Eryri a rhai mannau eraill, ceir geifr gwyllt a cheir geifr Cashmir ar y Gogarth (Llandudno) ers y 19eg ganrif.
[golygu] Y gân werin
Ceir cân werin byrlymus a hwyliog o'r enw "Oes Gafr Eto?".