Tryfan
| Tryfan (Y Glyderau) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Tryfan o Lyn y Gaseg-fraith |
| Uchder (m) | 917.5 |
| Uchder (tr) | 3010 |
| Amlygrwydd (m) | 191 |
| Lleoliad | yn Eryri |
| Map topograffig | Landranger 115; Explorer 17W |
| Cyfesurynnau OS | SH664593 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall |
Mynydd yn y Glyderau yn Eryri yw Tryfan, a chanddo uchder o 3010 troedfedd (917.5m). Mae'n hynod greigiog ac mae ganddo siâp nodweddiadol iawn. Saif wrth ymyl ffordd yr A5 ger Llyn Ogwen, gyda'r Carneddau yr ochr arall i'r llyn. Mae'n gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ac fe'i lleolir yn Sir Conwy er 1996 (bu'n rhan o'r hen sir Gwynedd cyn hynny).
Mae Tryfan yn un o'r mynyddoedd mwyaf poblogaidd o holl fynyddoedd Eryri, ac ar benwythnosau braf yn yr haf mae cannoedd yn ei ddringo. Dywedir mai Tryfan yw'r unig fynydd yn Eryri (ac unrhywle yng Nghymru a Lloegr) nad oes modd ei ddringo heb ddefnyddio dwylo yn ogystal a thraed.
Ar y copa mae dwy garreg fawr a fedyddiwyd yn "Adda ac Efa", ac mae'n gamp draddodiadol neidio o un i'r llall. Mae'n gallu bod yn gamp beryglus, yn arbennig pan fo'r gwynt yn chwythu'n gryf.[1]
Meddylir yn aml mai 'tri' sydd yn elfen gyntaf yr enw Tryfan ac felly mai 'Tri phig' neu 'Tri phwynt' yw'r ystyr', ond mae Ifor Williams yn dangos mai 'try' yn yr ystyr gryfhaol (fel 'tryloyw' er enghraifft) sydd yma. Ystyr yr enw felly yw "mynydd sy'n codi'n uchel iawn, neu un sydd â blaen main iddo".[2] Mae'n enw y ceir enghreifftiau eraill ohono yng Nghymru, e.e. Mynydd Tryfan a Rhostryfan yn Arfon a Mynydd Tryfan yn Sir Ddinbych. Ceir yr enw hefyd am y llysiau Dail y tryfan (Petasites yn Lladin).
Ceir nifer o eifr gwyllt yn pori ar lethrau Tryfan.
Cynnwys |
Oriel [golygu]
-
Tryfan gyda Llyn Idwal o'i flaen
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Adroddiad Blynyddol Tîm Achub Mynydd Ogwen 2001 Ffeil PDF
- ↑ Ifor Williams, Enwau Lleoedd, tud. 15.
| Y pedwar copa ar ddeg |
|---|
|
Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
|
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
|
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |