Yr Eifl
| Yr Eifl (Penrhyn Llŷn) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Yr Eifl o'r dwyrain |
| Uchder (m) | 564 |
| Uchder (tr) | 1850 |
| Amlygrwydd (m) | 433 |
| Lleoliad | Pen Llŷn |
| Map topograffig | Landranger 123; Explorer 253 254 |
| Cyfesurynnau OS | SH364447 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd) a Dewey |
Mynydd ar arfordir gogleddol Llŷn, uwchben pentrefi Llanaelhaearn a Threfor, yw Yr Eifl. Llygriad o'r enw Cymraeg gwreiddiol yw'r enw Saesneg arno, The Rivals. Mae'r olygfa o ben yr Eifl yn fendigedig gan fod y mynydd yn uwch nag unman arall yn Llŷn. Mae'n sefyll allan o bell hefyd ac yn arbennig o drawiadol o lannau de-orllewinol Ynys Môn, e.e. o Ynys Llanddwyn; cyfeiriad grid SH364447. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 131 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Mae gan y mynydd dri chopa. Mae'r uchaf yn y canol (564m) â hen garnedd arno, y lleiaf i'r gogledd (444m), yntau gyda charnedd arno, dros Fwlch yr Eifl ac uwchben y môr, a'r trydydd (485m) i'r de-ddwyrain uwchben pentref hanesyddol Llanaelhaearn. Coronir yr olaf â bryngaer hynafol nodedig iawn a elwir Tre'r Ceiri, sydd un o'r bryngaerau cynhanesyddol gorau yn Ewrop.
Dan gysgod bygythiol Graig Ddu ar ei lethrau gorllewinol mae'r hen bentref chwarel Nant Gwrtheyrn, sydd ers blynyddoedd bellach yn ganolfan iaith genedlaethol. Ceir chwarel arall ar lethrau gogleddol y copa isaf, sef Chwarel Trefor. Gwenithfaen yw'r garreg.
O gwmpas y mynydd, o'r gogledd i'r gorllewin, ceir pentrefi Trefor, Llanaelhaearn a Llithfaen.
Cynnwys |
Y copa [golygu]
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd) a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 564m (1850tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
Llyfryddiaeth [golygu]
- Ioan Mai Evans, Gwlad Llŷn (Llandybïe, 1968)