Dyffryn Dysynni

Oddi ar Wicipedia
Dyffryn Dysynni
Mathdyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.658258°N 3.981313°W Edit this on Wikidata
Map

Dyffryn eang yn ne Gwynedd yw Dyffryn Dysynni. Llifa afon Dysynni drwyddo. Yn yr Oesoedd Canol roedd y dyffryn yn rhan o gwmwd Ystumanner, cantref Meirionnydd. Rhed y dyffryn o fryniau Cadair Idris i lawr i Fae Ceredigion.

Lleolir Castell y Bere yn rhan uchaf y dyffryn, ym mhlwyf hanesyddol Llanfihangel-y-Pennant. Mae'n sefyll ar grug neu fryncyn isel ar lan ddeheuol Afon Cader, ffrwd sy'n aberu yn Afon Dysynni hanner milltir i'r gorllewin o'r castell. Mae hen lwybr dros fwlch Nant yr Eira ac un arall ar lan Afon Dysynni yn ei gysylltu ag Abergynolwyn i'r dwyrain.

Ger yr arfordir ceir pentrefi Llanegryn ac, ar ymyl y dyffryn, Tywyn. Nid nepell o Lanegryn, ar lan ogleddol y dyffryn, ceir plasty Peniarth, lle diogelwyd rhai o'r llawysgrifau Cymreig pwysicaf. Roedd gwylfa ar ben Craig yr Aderyn, hanner ffordd i lawr y dyffryn, i amddiffyn Castell y Bere.

Castell y Bere gyda bryniau Cadair Idris yn y cefndir
Hen ysgubor nid nepell o Graig y Deryn

Oddi yma i'r Bala y cerddodd Mary Jones i ymofyn Beibl gan Thomas Charles yn 1800. Ganed y geiriadurwr a'r golygydd William Owen Pughe ym mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant ar y 7 Awst 1759.