Asia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r byd yn dangos Asia
Delwedd cyfansawdd lloeren o Asia

Gyda arwynebedd tir o 44.4 miliwn km² a phoblogaeth o tua 3.4 biliwn, Asia yw'r cyfandir mwyaf yn y byd. Fe'i diffinir yn draddodiadol fel y rhan o ehangdir Affrica-Ewrasia sy'n gorwedd i'r dwyrain o Gamlas Suez a Mynyddoedd yr Ural, ac i'r de o Fynyddoedd y Cawcasws, Môr Caspia a'r Môr Du. Mae tua 60% o boblogaeth ddynol y byd yn byw yn Asia. Dim ond 2% o'r boblogaeth honno sydd yn byw yn hanner gogleddol a mewndirol y cyfandir, sef Siberia, Mongolia, Kazakstan, Xinjiang, Tibet, Qinghai, gorllewin Uzbekistan a Turkmenistan); mae'r 98% arall yn byw yn hanner arall y cyfandir, i'r de.

Geirdarddiad[golygu]

Daw'r gair Asia o'r gair Groeg Ασία (Asia). Digwydd y gair am y tro cyntaf yng ngwaith yr hanesydd Groeg Herodotus (c. 440 C.C.), sy'n cyfeirio at Asia Leiaf ac Asia wrth drafod Rhyfeloedd Groeg a Phersia a'r Ymerodraeth Bersiaidd.

Daearyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Asia

Mae Asia yn cynnwys tua thraean o dir y byd (44.4 miliwn km²). Mae ei hyd eithaf o'r gorllewin i'r dwyrain yn 11,000 km, ac yn 8,500 km o'r gogledd i'r de. Mae'r rhan fwyaf o Asia, o bell ffordd, yn gorwedd yn uwch na'r Cyhydedd yn hemisffer y gogledd. Dim ond rhai rhannau o Dde-ddwyrain Asia ac is-gyfandir India sydd i'r de o'r Cyhydedd.

Mae'r cyfandir yn cyffwrdd â'r Môr Arctig yn y gogledd, y Cefnfor Tawel yn y dwyrain a Chefnfor India yn y de. Yn y gorllewin mae Asia yn ffinio ag Ewrop, y Môr Canoldir, rhan ddwyreiniol Gogledd Affrica a'r Môr Coch. Mae Môr Bering, sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel, yn gwahanu Siberia yng ngogledd-ddwyrain Asia a Gogledd America. Gorynys Arabia, India, Gorynys Malaya, Korea a Kamchatka yw'r mwyaf a'r pwysicaf o'r gorynysoedd niferus ar y cyfandir. Oddi ar arfordir y gogledd-ddwyrain ceir ynys Sakhalin, ynysoedd Japan a Taiwan.

Yn is i lawr mae De-ddwyrain Asia yn cynnwys nifer fawr iawn o ynysoedd; y pwysicaf ohonynt yw ynysoedd Luzon a Mindanao yn y Pilipinas, Borneo, yr ynysoedd Indonesiaidd Sumatra, Java a Sulawesi, Timor a Guinea Newydd. Yr ynysoedd pwysicaf oddi ar arfordir de Asia yw Ceylon (Sri Lanka), y Maldives ac Ynysoedd Andaman. Mae'r moroedd llai sy'n perthyn i Asia yn cynnwys y Môr Coch rhwng Arabia a gogledd-ddwyrain Affrica, Môr Arabia rhwng dwyrain Arabia a gorllewin India, Bae Bengal rhwng dwyrain India a Myanmar, Môr De China, Môr Dwyrain China rhwng Taiwan a Japan, y Môr Melyn rhwng gogledd-ddwyrain China a Korea, Môr Japan rhwng Japan a Manchuria, a Môr Okhotsk rhwng Siberia a Kamchatka.

Mae cadwyni mynydd pwysicaf Asia yn cynnwys Mynyddoedd Cawcasws, yr Hindu Kush, y Karakoram, Mynyddoedd Pamir, y Tien Shan, y Kunlun Shan a'r Himalaya ei hun sy'n cynnwys Everest, mynydd uchaf y byd.

Hanes[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Asia

Crefyddau[golygu]

Mae Asia yn gartref i'r rhan fwyaf o grefyddau mawr y byd ers canrifoedd lawer. Mae Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam yn tarddu o'r un ardal yng ngorllewin Asia. India yw crud Hindŵaeth, Siciaeth a Bwdiaeth, a daw Taoaeth a Chonffiwsiaeth o China. Yn y gogledd Arctaidd Shamaniaeth yw'r grefydd frodorol ac yn Japan mae Shinto yn cydfyw â Bwdiaeth.

Economi[golygu]

Yn nhermau cynnyrch mewnwladol crynswth (PPP), ceir yr economi genedlaethol fwyaf yn Asia yn Ngweriniaeth Pobl China (GPCh). Dros y degawd diweddaf, mae economïau China ac India wedi tyfu'n gyflym iawn, gyda'r ddwy wlad yn mwynhau cyfradd cynydd blynyddol cyfartalog o dros 7%. GPCh yw'r economi ail fwyaf yn y byd ar ôl yr Unol Daleithiau, ac mae'n cael ei dilyn gan Japan ac India fel economïau trydydd a phedwaredd mwyaf y byd yn ôl eu trefn (yn nesaf daw economïau'r gwledydd Ewropeaidd, er enghraifft yr Almaen, DU, Ffrainc a'r Eidal).

Economi Asia
Poblogaeth: 4.001 biliwn
CMC (PPP): US$18.077 triliwn
CMC (Pres): $8.782 triliwn
CMC/pen (PPP): $4,518
CMC/pen (Pres): $2,195
Cynydd blynyddol yn
CMC y pen:
Incwm y 10% top:
Miliwnyddion: 2.0 miliwn (0.05%)

Nwyddau naturiol[golygu]

Asia yw cyfandir mwyaf y byd, ac felly'n gyfoethog mewn nwyddau naturiol, megis petroliwm a haearn.

Mae cynhyrchiant uchel ym myd amaeth, yn enwedig yn achos reis, yn cynnal dwysedd poblogaeth uchel yn y gwledydd sydd yn yr ardal gynnes a llaith ar y Cyhydedd neu yn ei gyffiniau. Mae'r prif cynhyrchion amaethyddol eraill yn cynnwys gwenith ac ieir.

Mae coedwigaeth i'w chael ar raddfa helaeth drwy Asia i gyd, ac eithrio de-orllewin a chanolbarth y cyfandir. Mae pysgota yn un o brif ffynonellau bwyd Asia, yn enwedig yn Japan.

Gwledydd Asia[golygu]

Gwledydd o Asia
Cyfandiroedd y Ddaear

LocationAfricaEurasia.png
Affrica-Ewrasia
LocationAmericas.png
Yr Amerig
LocationEurasia.png
Ewrasia

LocationAfrica.png
Affrica
LocationAntarctica.png
Antarctica
LocationAsia.png
Asia
Location of Europe.svg
Ewrop
LocationNorthAmerica.png
Gogledd America
LocationSouthAmerica.png
De America
LocationOceania.png
Oceania

Uwchgyfandiroedd daearegol :  Gondwana · Lawrasia · Pangaea · Pannotia · Rodinia · Colwmbia · Kenorland · Ur  · Vaalbara

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Asia
yn Wiciadur.